Mae Antur Cymru wedi penodi Ymgynghorydd Cyflogaeth ar Gyfer Pobl Anabl

Penodwyd Catherine Rowland, aelod profiadol o Dîm Ymgynghorol Busnes Antur Cymru yn Ymgynghorydd Cyflogaeth ar gyfer pobl anabl ar gyfer Canolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru.

Mae’r rôl newydd yn darparu cyngor i fusnesau ar recriwtio ac ymsefydlu pobl ag anabledd i’r gweithle ac yn helpu busnesau ymhellach i addasu polisïau a phrosesau i sicrhau arfer gorau wrth ddatblygu gweithlu amrywiol a thalentog.

Cyflwynir y fenter newydd hon ledled Cymru trwy rhaglen gymorth Busnes Cymru ac fe’i hariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Catherine –

“Rwy’n darparu gwell dealltwriaeth, gan ddangos i fusnesau lleol sut y gallant ddatblygu arferion recriwtio a chyflogaeth yn hawdd i wella canlyniadau swyddi a rhagolygon gyrfa i bobl anabl, cyrchu cronfa o dalent heb ei gyffwrdd, a creu buddion o gael gweithlu amrywiol.”

Croesawodd Bronwen Raine, RG Antur Cymru yr apwyntiad –

“Rydym mor falch o gael profiad Catherine s’yn ein helpu i gefnogi busnesau i gael mynediad at y buddion cadarnhaol o gyflogi pobl ag anableddau.  Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd yn fawr â’n gwerthoedd craidd fel sefydliad sy’n gweithio i gefnogi’r agenda gynhwysiant yng Nghymru.

Byddem yn croesawu ymholiadau.  Cysylltwch â:

Catherine Rowland

Ymgynghorydd Busnes Arbenigol

Ymgynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl

Rhif Ffôn Symudol: 07969 577294

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction