Mae Antur Teifi wedi llwyddo gyda’i cais am Dystysgrif Cyber Essentials a ddyfarnwyd gan IT Governance Ltd.
Mae Cyber Essentials yn gynllun a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy’n darparu’r mecanwaith i sefydliadau ddangos i gwsmeriaid, buddsoddwyr, yswirwyr ac eraill eu bod wedi cymryd y camau hanfodol i amddiffyn eu hunain yn erbyn ymosodiadau seiber. Mae hefyd yn galluogi cwmnïau i dendro’n llwyddiannus am gontractau’r Llywodraeth.
Ar ôl cwblhau’r holl ofynion angenrheidiol, bydd Antur Teifi nawr yn medru arddangos y bathodyn *CREST i ddangos ei fod yn gweithredu’n bositif yn erbyn bygythiadau seiber.
* Y corff achredu cynllun Cyber Essentials Llywodraeth y DU.
Diolch hefyd i Telemat TG am y cyngor a’r gefnogaeth a sicrhaodd ein bod yn llwyddiannus yn cadw achrediad Cyber Essentials eleni eto.