Yn rhan o’r tîm rheoli canolog yn y cwmni ers 2015 mae Kevin Harrington eisoes yn wyneb cyfarwydd ym Menter Antur Cymru. Yn ddiweddar, fe’i benodwyd yn Rheolwr Adran TG cwmni Telemat. Yr hyn sy’n ei wneud yn frwdfrydig am y swydd hon yw’r her o arwain twf gwasanaethau Di-Wifr i Drefi, Trefi Clyfar a LoRaWAN.
Meddai Kevin, “Ry ni’n gweld twf ym meysydd blaengar ar gyfer gwasanaethau ymgynghori megis y Rhyngrwyd Pethau. Ein strategaeth yw symud tuag at wasanaethau ymgynghori o fewn y technolegau datblygol hyn tra’n parhau i ddarparu gwasanaethau busnes TG rhagorol i’n cwsmeriaid gyda chefnogaeth TG a chytundebau lefel gwasanaeth.
Yn ei fis cyntaf wrth y llyw, mae Kevin wedi goruchwylio lansiad gwefan newydd Telemat ac wedi ennill cytundebau o bwys ar draws Cymru yn darparu Di-Wifr i Drefi, y Rhyngrwyd Pethau a LoRaWAN.