Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 4 – 11 Mawrth
Roedd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i ni ganu clod y ddau brentis ifanc sy’n gydweithwyr i ni ar hyn o bryd. Ymunodd Stacie Hopley a Rhys Jones â ni ym mis Mehefin y llynedd fel rhan o brosiect Wi-Fi Trefi Sir Gâr yn dilyn prentisiaeth ddigidol a hysbysebwyd gan chwaer gwmni Antur Teifi, Telemat TG.
Yn sgil ein cydweithio â Choleg Sir Gâr mae’r ddau ar eu ffordd tuag at ennill cymhwyster Diploma NVQ Lefel 3 mewn TG ochr yn ochr â’u profiad yn y gweithle. Darllenwch eu stori yma
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
8fed Mawrth 2019
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni roedd gwasanaeth dechrau busnes Antur Teifi yn falch iawn o allu cyhoeddi iddynt, yn ystod y flwyddyn a fu, helpu 47 o fenywod i sicrhau Benthyciad Dechrau Busnes er mwyn sefydlu neu dyfu eu busnes eu hunain. Eisoes ma’ nhw wedi gosod her newydd i’w hunain, sef torri’r record honno erbyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y flwyddyn nesaf.
Bŵtcamp i fusnes 2019
Bu 29 o entrepreneuriaid ifainc o bob rhan o Ogledd Cymru yn cymryd rhan mewn Bŵtcamp i Fusnes yng Ngwersyll Glan-llyn dros benwythnos 15-17 Ebrill. Cynlluniwyd y gweithgareddau ar gyfer cyflwyno iddynt sgiliau a fydd yn eu helpu i wireddu eu syniadau busnes. Dyma’r trydydd Bŵtcamp a drefnwyd gan dîm Antur Teifi fel rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Mae Bŵtcamp yn agored i bobl ifainc rhwng 18 a 25 oed. Roedd gweithdai amrywiol ar eu cyfer drwy gydol y penwythnos gan gynnwys sesiwn ‘speed dating’ â modelau rôl Syniadau Mawr Cymru!
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan Syniadau Mawr Cymru ar gyfer entrepreneuriaid ifainc ewch i www.businesswales.gov.wales/bigideas/cy
Llwyddiant i doiledau Brechfa!
Mae Ymddiriedolaeth Pentref Brechfa wedi sicrhau grant o £1,500 y flwyddyn dros y 10 mlynedd nesaf a fydd yn sicrhau bod y toiledau cyhoeddus ar agor ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Dyfarnwyd yr arian gan Innogy – Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gorllewinol Coedwig Brechfa a weinyddir gan Antur Teifi. Ei ddiben fydd cynnal a chadw’r toiledau.
Mae’r cyfleusterau hyn o bwys arbennig i fywyd cymunedol y pentref gan nad oes yna’r un toiled yn Neuadd yr Eglwys – un o brif ganolfannau Brechfa.
Moishe Merry yw Rheolwr y Gronfa “Mae’r Ymddiriredolwyr a’r gwirfoddolwyr yn haeddiannol iawn o arian y gronfa yn sgil eu hymrwymiad a’u dyfalbarhad wrth gadw’r toiledau ar agor er lles y gymuned.” Am ragor o wybodaeth am y gronfa: /amdano-antur-cymru/prosiect-fferm-wynt-brechfa
Adeiladu llwyddiant
Bydd tîm Perspectif yn gweithio gyda Choleg Ceredigion dros y misoedd nesaf i’w helpu i adnabod anghenion y sector adeiladu lleol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i greu cwricwlwm a fydd yn paratoi’r myfyrwyr yn well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant adeiladu ac i gefnogi datblygiad busnesau lleol ac anghenion y sector.
Prosiect arall a fydd yn cadw’r tîm yn brysur yn y misoedd nesaf yw arolwg atodol ar ran y Bartneriaeth Sgiliau Dysgu Gwledig. Y nod yw cynorthwyo’r gwaith o lywio a chefnogi strategaeth cyflogaeth a sgiliau Llywodraeth Cymru.
Digwyddiad Astudiaeth Achos Busnes Cymru. Iechyd Da!
Mae’r distyll arbennig yn unigryw i’r fusnes, gan iddo gael ei gynllunio a’i adeiladu gan deulu’r Coles eu hunain. Erbyn hyn, mae’r distyllfa’n cynhyrchu amrywiaeth o wirodydd gan gynnwys wisgi, gin, fodca, rwm a sawl brandi ag iddynt flas ffrwythau. Ar y noson, roedd Ymgynghorydd Busnes Cymru hefyd wrth law gyda gwybodaeth am yr holl gymorth busnes sydd ar gael i fusnesau.
Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus iawn yn Nistyllfa Coles yn Llanddarog yn ddiweddar. Cafodd y 25 o berchnogion busnes a rhanddeiliaid a oedd yn bresennol daith ddifyr ynghyd â sgwrs ddiddorol iawn am ddatblygiad y distyllfa gan y cyd-berchennog, Marcus Cole.
Dai Nicholas – Ymgynghorydd Busnes
Dyma’r manylion am y digwyddiad nesaf.
Gwau wrth gnoi!
Os y’ch chi wedi ffono Antur Teifi yn ddiweddar mae’n siwr taw Alice, ein Swyddog Gweinyddol, wnaeth eich cyfarch. Ers blynyddoedd mae Alice wedi bod yn codi arian i elusen Bobath ar ran dioddefwyr Parlys yr Ymennydd. Eleni mae hi wedi bod yn gwau blancedi i’w rhoi i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae ei brwdfrydedd wedi ysbrydoli rhai o’i chydweithwyr i wneud rhywbeth i helpu yn eu hamser cinio. Yn dilyn cwpwl o wersi gan Alice, ma’ nhw bellach wrth eu bodd yn gwau wrth gnoi! Da iawn bawb.
16-24?
*** SWYDD ***
Swyddog Marchnata Digidol.
Twf Swyddi Cymru.