Achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl

Unwaith eto, mae Antur Teifi wedi llwyddo i sicrhau achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl Hwn yw’r safon cydnabyddedig ar gyfer rheoli pobl.

Mae’r wobr yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wireddu potensial ein staff i arwain, cefnogi a rheoli eu timau yn effeithiol i gyflawni canlyniadau cynaliadwy. Yn sail i’r Safon mae’r fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n adlewyrchu tueddiadau diweddaraf yn y  gweithle, sgiliau hanfodol a strwythurau effeithiol sydd eu hangen i berfformio’n well mewn unrhyw ddiwydiant. Gan weithio gyda chleientiaid ar draws y byd, mae Buddsoddwyr Mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y gorau yn y busnes ar raddfa ryngwladol.

Meddai Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl: “Hoffem longyfarch Antur Teifi gan fod achrediad hwn yn arwydd o gyflogwr gwych, a mudiad sydd wedi ymrwymo i gyflawni llwyddiant trwy wireddu potensial eu pobl. ”

Bronwen Raine yw Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi:  “Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchiad o gyfraniad ac ymroddiad ein timau ledled Cymru.  Mae ein hachrediad yn para am y tair blynedd nesaf, ond byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud gwelliannau mewn rheoli pobl er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cleientiaid. “

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction