Enillwyr a Chollwyr: Beth Yw Eich Dewisiadau Cyllid?

Rob Warlow Rheolwr Gyfarwyddwr Business Loan Services (UK) Ltd sy’n siarad gyda Menter Antur Cymru.

Pe baech chi’n gofyn i berchnogion busnes “Sut mae busnes wedi bod?”, yr ateb fyddai naill ai “Ry’ ni wedi cael ein blwyddyn waethaf erioed” neu “Ry’ ni wedi cael ein blwyddyn orau erioed”.

Mewn amserau heriol, mae yna wastad Enillwyr a Chollwyr.

Yr Enillwyr yw’r manwerthwyr ar-lein, stocwyr eitemau i wella’r cartref, cyflenwyr adloniant yn y cartref; a galluogwyr technoleg. Heb os y Collwyr yw’r manwerthwyr traddodiadol a’r rhai hynny yn y sector lletygarwch a hamdden.

Un peth bydd gan bob un ohonynt yn gyffredin yn 2021 yw mynediad at gyllid.

Cefnogaeth y Llywodraeth

Mae’r llywodraeth wedi cyfrannu lefelau digynsail o gefnogaeth trwy’r cynlluniau benthyg amrywiol ac yn bennaf trwy’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes (CBTF) a’r Cynllun Benthyciad Adfer (CBA).  Mae’r ffigurau diweddaraf gan y British Business Bank yn dangos bod 1.5m o fenthyciadau wedi’u dosbarthu hyd yn hyn gyda £68bn wedi’i fenthyg.  Mae’r awydd i fenthyca wedi bod yn anniwall gyda UK Finance yn nodi bod benthyca i fusnesau bach a chanolig yn ystod tri chwarter cyntaf 2020 yn fwy na dwbl cyfanswm y flwyddyn yn 2019.

Bydd y cyfuniad o lefel y ddyled newydd ac amgylchedd economaidd heriol yn dylanwadu ar y gallu i godi cyllid yn 2021. Bydd Enillwyr a Chollwyr yn ei chael hi’n anoddach nag o’r blaen i gael mynediad at gyllid.

Tra bod gan yr Enillwyr fudd yn deillio o dwf cryf mewn gwerthiant, llif arian positif a mantolenni iach, mae llwyddiant o’r fath yn cyflwyno set newydd o bwysau ariannol. Mae twf yn aml yn arwain at lyfr dyledwyr mwy o faint, mwy o stoc wrth gefn a buddsoddiad mewn peiriannau ac offer – pethau oll sydd yn rhaid eu hariannu.

Er bod y twf yn gadarnhaol, mi fydd Enillwyr yn wynebu meini prawf benthyca llymach. Mae benthycwyr y Stryd Fawr eisoes wedi dechrau tynhau’r sail y byddant yn gweithredu arni ac yn dod i adnabod y sectorau diwydiant y maent yn gyffyrddus â hwy (neu beidio).

Bydd benthycwyr y Stryd Fawr ar gael ar gyfer y busnesau cryfaf ond ble arall gall Enillwyr fynd i chwilio am ffynonellau cyllid amgen?

Benthycwyr Tymor Byr: mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer cyfleusterau gyda thelerau ad-dalu rhwng 3 a 12 mis. Gall darparwyr fel Iwoca, Just Cashflow a Fleximize ddiwallu gofynion ar gyfer prynu stoc, taliadau treth neu hwb cyffredinol i arian parod.

Cyllid Asedau: mae prynu offer a cherbydau trwy Hurbwrcasu (HP) neu Brydlesu wedi bod yn ffynhonnell gyllid boblogaidd. Oherwydd galwadau cynyddol gall Enillwyr gadw arian parod trwy brynu eitemau cyfalaf trwy gynlluniau Cyllid Asedau.

Cyllid Anfonebu: gall busnesau sy’n gwerthu ar delerau credyd fargeinio yn erbyn anfonebau. Bydd rhyddhau arian parod yn erbyn anfoneb yn rhoi hwb ar unwaith i gyfalaf gweithredol yn lle aros 30, 60 neu 90 diwrnod am daliad.

A beth am y Collwyr sydd wedi cael eu heffeithio’n negyddol? Y gwir yw, er bydd y ffynonellau cyllid uchod ar gael (yn enwedig Cyllid Anfonebu), bydd colledion 2020, mantolenni gwannach, bodolaeth CBA neu CBTF a nifer y credydwyr yn crynhoi yn arwain at heriau codi cyllid.

Os ydych chi yn y sefyllfa hon, yna gall 2021 fod yn flwyddyn o hunan-fyfyrio. Hyd yn oed pe gallech godi cyllid tybed ai’r peth iawn fyddai i ysgwyddo mwy o ddyled? Y cam cywir yw ceisio cyngor gan eich Cyfrifydd, Ymgynghorydd Busnes, neu Ymarferydd Ansolfedd Trwyddedig.

Mi fydd eleni yn dod â heriau i’r Enillwyr a’r Collwyr a beth fydd ei angen fydd cynllunio, ymchwilio i opsiynau a chymryd y cyngor cywir.

Mae Rob Warlow yn Rheolwr Gyfarwydddwr y Business Loan Services (UK) Ltd. Am fwy o wybodaeth ewch i www.businessloanservices.co.uk . 

I weld y cyfweliad hwn yn llawn, dilynwch y ddolen;      

www.anturcymru.org.uk

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction