Mae Antur Cymru yn gwneud gwahaniaeth i fywydau merched sy’n ffoaduriaid o Syria.

Yn ddiweddar bu Menter Antur Cymru yn gweithio ar brosiect Ymgysylltu Cymunedol llwyddiannus ar ran Llywodraeth Cymru gan ychwanegu at ei enw da o weithio gyda grwpiau lleiafrifol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gymuned.

Roedd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda merched sy’n rhan o gymuned ffoaduriaid Syria ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Mae Covid-19 wedi amlygu anghydraddoldebau o fewn y cymunedau BAME yng Nghymru ac roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed y lleisiau tawel o bob rhan o Gymru. Bwriad yr ymgynghoriad oedd caniatáu i unigolion gael llais i lywio datblygiad y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Paratowyd adroddiad gan Antur Cymru sy’n cael ei asesu gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a bydd y canfyddiadau, yn ogystal â chanfyddiadau cyffredin o adroddiadau gan grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol e.e.Teithwyr Sipsiwn, yn cael eu cyflwyno o fewn yr wythnosau nesaf.

Bu’r prosiect yn ymchwilio i feysydd allweddol megis addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth ac incwm, tai, trosedd a chyfiawnder, diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth ac arweinyddiaeth a diwylliant.

Roedd y gweithgareddau casglu gwybodaeth yn cynnwys 3 Grŵp Trafod o 2 awr yr un gyda chyfleusterau cyfieithu Arabeg er mwyn adnabod y camau allweddol i ategu at sail y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, o safbwynt y grŵp ffoaduriaid benywaidd o Syria.

Arweiniwyd yr ymgynghoriad gan Catherine Rowland, Ymgynghorydd Busnes Arbenigol ym Menter Antur Cymru.

Rhoddodd y sesiynau gyfle i leisiau a barn merched o’r gymuned Syriaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gael eu clywed, gan fynd i’r afael â’r holl agweddau allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Mae’r menywod wedi cyflawni cryn dipyn ers symud i Gymru. Maent wedi ymgartrefu yn eu cymunedau ac yn hapus yn byw yng Nghymru.

Dyma sylwadau Latifa Alnjjar, cynrychiolydd Prosiect Cinio Syria am ei phrofiad hi o symud i Gymru;

“Mae yna lawer o debygrwydd rhwng y Gymuned Gymreig a Syria. Mae perthynas y ddau gymuned â’u teuluoedd yn gryf iawn. Mae pobl yn adnabod ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Yma yn Aberystwyth, mae’n dref fach gyda chymuned fach fel Homs, y lle o ble dwi’n dod.

Ry’ ni’n dair o ferched sydd wrth ein bodd yn coginio ac fe’n hanogwyd gan ein ffrind hyfryd Rose i goginio ar gyfer achlysuron arbennig ac o hynny ymlaen fe ddechreuon ni wneud ein ciniawau ar gyfer digwyddiadau.

Mae’r digwyddiadau hyn yn dod â llawer o bobl o’r gymuned at ei gilydd.  Mae pobl yn rhannu bwyd a syniadau. Mae’n ffordd o gyfnewid ac integreiddio diwylliannol.

Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn mynd o nerth i nerth. Gobeithiwn hefyd y bydd y llwyddiant hwn yn ysgogi teuluoedd eraill o Syria ar draws y DU i ddechrau eu prosiectau eu hunain. Prosiectau sy’n ddefnyddiol i’w cymunedau. Ry’ ni’n gobeithio agor bwyty i rannu ein bwyd a’n diwylliant gydag eraill”.

Am Antur Cymru.

Mae Antur Cymru yn asiantaeth fusnes sy’n cefnogi’r gymuned fusnes yng Nghymru trwy wasanaethau cynghori, gwasanaethau TG, mentrau cymunedol a helpu busnesau i gael mynediad at gyllid.  Ar hyn o bryd rydym yn darparu cytundeb Busnes Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth busnes yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru.

www.anturcymru.org.uk

https://www.facebook.com/Syriandinner/

https://www.instagram.com/p/CEFKiwfJpWO/?igshid=1ey4rumua1lx1

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction