Hanner awr a allai arwain at dwf o 30% i’ch busnes

Mae Antur Teifi yn gweithio gyda miloedd o fusnesau bob blwyddyn i’w helpu i wireddu eu hamcanion.  Ry’ ni’n gwybod bod rhedeg busnes yn gymhleth iawn, yn heriol ac yn werth chweil.  Ry’ ni  hefyd yn gwybod y gall cynllunio gofalus arwain at berfformiad gwell. Caiff hyn ei ategu gan ymchwil annibynnol. Er enghraifft, cyhoeddodd  Andrew Burke, Stuart Fraser a Francis Greene ymchwil yn y Journal of Management Studies 47(3) yn 2010 sy’n dangos bod cwmnïau sy’n cynllunio yn  tyfu 30% yn gyflymach na’r rhai hynny sydd ddim yn cynllunio.

Ry’ ni’n gwybod y gall cynllunio ar gyfer datblygu eich busnes gymryd llawer o amser ac weithiau mae’n gallu bod yn  gymhleth oherwydd bod yna gymaint i’w hystyried. Gyda hyn mewn golwg,  mae Antur Teifi wedi datblygu offeryn busnes hunan-asesu  ar-lein a fydd yn eich galluogi i adnabod lle mae angen i chi ganolbwyntio eich sylw.

Mae Ciplun Byd Busnes Byw yn gofyn i fusnesau i raddio eu perfformiad ar draws 6 ardal fallweddol o fusnes:

  • Cynllunio Busnes (gan gynnwys rheoli adnoddau o fewn y busnes)
  • Deallusrwydd Marchnata
  • Rheoli TG
  • Rheolaeth Ariannol
  • Strategaeth Farchnata
  • Gwerthiant

Ar gyfer pob adran, gofynnir i chi i sgorio eich perfformiad presennol, cyn ateb cyfres o gwestiynau am y gweithgaredd ry’ chi’n ymgymryd â nhw o fewn pob adran. Ar ddiwedd yr adran, gofynnir i chi i sgorio eich hunain unwaith eto, gan ystyried eich hymatebion i’r cwestiynau hynny. Mae hyn yn eich galluogi i ddarparu ateb greddfol  yn ogystal ag ymateb mwy ystyriol i’ch perfformiad ym mhob adran.

Ar ôl cwblhau’r Ciplun, bydd cyfanswm eich sgôr (allan o 60) yn cael ei roi, ac yna gwahoddir chi i ystyried pa feysydd o fewn y busnes sydd angen gwella.

Gellir defnyddio hyn wedyn fel sail ar gyfer cynllunio  twf a datblygiad yn y dyfodol, ac arwain at wella perfformiad.

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction