Datblygu bwyd ac ymgynghoriaeth brand
Mae tîm arbenigol wrth law i weithio gyda busnesau sydd ar gychwyn, busnesau sydd eisoes yn bodoli neu gwmnïau bwyd sydd yn y camau cyntaf o’u datblygiad. Mae gennym brofiad o fynd â phrosiectau bwyd o’r cam cychwynnol, trwy’r profion bwyd, profi’r farchnad, datblygu’r brand i lansiad llawn ar y farchnad.