Cymraeg language logo

Codi arian a chyllid masnachol

Mewn ymateb i’r banciau’n mynd o’r Stryd Fawr, mae Antur wedi datblygu amrediad o gynhyrchion er mwyn mynd i’r afael ag anghenion busnesau, gan sicrhau bod cyngor a chefnogaeth ariannol ar gael ac wedi’i ddarparu gan bobl sydd â dealltwriaeth gadarn o’n economïau rhanbarthol.

Rydym yn fenter gymdeithsol ac iddi hanes hir, sy’n ymroddedig i weithio er budd cymunedau, busnesau a phobl. Fe wnawn ni weithio i sicrhau bod unrhyw ddatrysiadau a gynigir yn adlewyrchu’r werthoedd hynny trwy argymell datrysiadau priodol.

Mae gennym fynediad i gasgliad o ddatrysiadau ariannol, a dynnir o amrywiaeth o ddarparwyr, gyda phecynnau priodol ar gyfer amrediad o sefyllfaoedd gan gynnwys cydgrynhoi dyledion i leihau costau ad-dalu misol.

Ffoniwch am adolygiad ariannol RHAD AC AM DDIM er mwyn i chi weld sut allwn ni helpu.

Gwnewch gais nawr am gefnogaeth gyda’r datrysiadau canlynol...

  • Cyllid Asedau
  • Cydgrynhoi Benthyciadau ac ailgyllido
  • Benthyciadau Masnachol
  • Cyfnewidfa Dramor i Fusnesau

Eich helpu i wneud cais am nawdd

Mae gennym Ymgynghorwyr Busnes profiadol all eich cynorthwyo chi gyda’ch Cynllun Busnes, Rhagamcaniadau Ariannol a’r broses ymgeisio.

Roedd hi mor syml mynd at Menter Antur Cymru. Fe wnaeth y penderfyniad cyflym sicrhau mod i’n dod o hyd i’r eiddo perffaith er mwyn ehangu fy musnes.

– Jason Williams, Williams Estates, Gogledd Ddwyrain Cymru

Astudiaethau achos

Holwch i ddarganfod sut y gallwn ni helpu gyda chyllid...


    Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

    Contact us

    T: 01239 710 238
    E: [email protected]

    A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

    Cymraeg logo

    AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

    Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction