Medrwn adolygu eich brandio a marchnata a’r ffordd o gyflenwi marchnata

Cymraeg language logo

Ymgynghoriaeth Fasanchol i Fusnesau trwy Fenter Antur Cymru

P'un a ydych yn adleoli'ch busnes i Gymru neu'n tyfu busnes yng Nghymru, gall ein tîm o Ymgynghorwyr Busnes Masnachol gynnig cymorth i chi i adnabod cyfleoedd cyrchu cyllid ynghyd â gwneud ceisiadau am fenthyciadau heb eu gwarantu, benthyciadau dechrau busnes, benthyciadau i fusnesau bach neu forgeisiau busnes a hynny trwy eich helpu i ddatblygu cynlluniau busnes a chefnogi'ch busnes yn y broses o ymgeisio am gyllid.

 

Os ydych chi am dyfu eich busnes, adolygu'ch cynllun busnes, neu ddechrau cynllunio i gynyddu gwerth gorau eich busnes wrth baratoi ar gyfer ymadael, mae ein Ymgynghorwyr profiadol yma i helpu i wireddu eich dyheadau.  Mae argyfwng Covid wedi golygu bod busnesau yn ail-ystyried eu modelau gweithredu fwyfwy erbyn hyn, gan edrych ar ddatrysiadau gweithio-o-bell tra’n ystyried yr effaith ar swyddogaeth Adnoddau Dynol tra hefyd yn adolygu strategaethau marchnata a dulliau cyfathrebu marchnata. Os ydych chi'n chwilio am gymorth ymgynghori busnes, gofynnwch am ein gwasanaethau arbenigol yn y meysydd canlynol:

 

 

  • Codi cyllid busnes 
  • Datblygu strategaethau a chynlluniau busnes a marchnata
  • Ymgynghoriaeth a pholisïau Adnoddau Dynol
  • Ymgynghoriaeth a pholisïau Cynaliadwyedd
  • Arloesi busnes a sut i dyfu eich busnes
  • Cefnogaeth i dendro
  • Ymgynghoriaeth fusnes i gefnogi busnesau twristiaeth Cymru
  • Ymgynghoriaeth fusnes i gefnogi busnesau bwyd Cymru

 

Uwch Reolwr Marchnata

Dai Nicholas

[email protected]
07736 542280

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction