Gwasanaeth Di-Wifr Lletygarwch Telemat yn cyrraedd y marc ym Maes Carafanau a Gwersylla Dolbryn

Gwasanaeth Di-Wifr Telemat

Comisiynwyd Gwasanaethau Cymorth TG Telemat gan gwmni Carafanio a Gwersylla Dolbryn i gymryd dros y Cytundeb Cymorth Busnes TG, cytundeb sy’n cynnwys cyfrifoldeb am y cysylltedd Di-Wifr yn ogystal â’r gefnogaeth dechnegol ar gyfer y maes carafanau ger Castellnewydd Emlyn.

Roedd y gwaith yn cynnwys uwchraddio’r ddarpariaeth Ddi-Wifr sydd yn golygu bod y gwersyll erbyn hyn yn gallu cynnig y gwasanaeth ar draws holl safle’r gyrchfan hamdden hon yn Sir Gâr,

Mae Maes Carafanau a Gwersylla Dolbryn yn darparu safleoedd ar gyfer carafanau teithiol a phebyll, pebyll parod, a phodiau gwersylla pren ar gyfer ymwelwyr. Mae’r hafan dwristiaeth hefyd yn cynnig bar i ymwelwyr, siop, man chwarae a gweithgareddau i blant, ynghyd â theithiau cerdded bywyd gwyllt yn ogystal â’i winllan ei hun. Mae’r ardal anifeiliaid yn rhoi cyfle i ymwelwyr ryngweithio ag anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes – ac i berchnogion cŵn – maent yn cynnig cytiau yn arbennig ar gyfer y cŵn.

Ychwanegodd Telemat haen ychwanegol o Ddi-Wifr i’r safle er mwyn gallu cynnig cysylltedd cyflymder isel yn rhad ac am ddim i ymwelwyr, a hynny ar lefel premiwm safonol sydd gan amlaf yn gysylltiedig â’r gost o gynnal band eang.  Golyga hyn bod ffrydio byw ar draws pob math o ddyfeisiau symudol yn bosib.

“Mae Aled a thîm Telemat wedi rhoi datrysiadau gwych i ni i allu delio gyda nifer o faterion TG roedd yn ein hwynebu, gan gynnwys cyrchu band eang FTTP, system ffôn VOIP a’n galluogi i gynnig Di-Wifr premiwm safonol i’n gwesteion, rhywbeth sy’n hanfodol i unrhyw sector y dyddiau hyn sy’n gweithio wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid.  Cafodd Telemat argraff dda arna’i – o’r ymghynghoriad cyntaf hyd at y gwaith gosod a datrys y mân broblemau cychwynnol.   Mae’n wych gallu defnyddio cwmni dwyieithog lleol hefyd”. Sioned, Maes Carafanau a Gwersylla Dolbryn

Roedd gwasanaeth Telemat yn cynnwys:

  • Arolwg o’r safle.
  • Cynnig a dyfynbris manwl.
  • Gosod o fewn yr un diwrnod â chyn lleied o darfu â phosib ar fasnachu.
  • Ychwanegu at y pecyn ymwelwyr er mwyn cynnig y datrysiadau Di-Wifr diweddaraf.
  • Gosod system Di-Wifr sy’n cyrraedd pob cwr o’r safle.
  • Cytundeb cynnal a chadw parhaus.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Cymorth TG Telemat wella eich busnes â chysylltedd Di-Wifr, ewch i’r wefan: https://www.telemat.co.uk

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01239 712345

I gael rhagor o wybodaeth am Faes Carafanio a Gwersylla Dolbryn ewch i’r wefan: www.dolbryn.co.uk

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction