Grŵp Rhwydweithio Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (CCP)

Cynhaliwyd cyfarfod o Grŵp Rhwydweithio Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (CCP) y bore yma yng Ngwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn.

Cafwyd cynrychiolaeth dda o fusnesau a sefydliadau a hynny er gwaetha’r gwynt a’r glaw!  Ar ôl mwynhau rôl cig moch a digon o goffi a te i’n cadw ni’n effro,  cafodd pawb gyfle i gyflwyno eu hunain a’u busnes cyn symud ymlaen i’r sesiwn mwy anffurfiol  yn sgwrsio a dod i adnabod ei gilydd a’u busnesau.

Aled addressing the group Ym mhob cyfarfod, fe fydd yna slot 5 munud  ar gael i un busnes i gyflwyno eu gweithgareddau. Tro Telemat,  Antur Teifi oedd hi y tro hwn.   Cafwyd anerchiad gan Aled Davies, Gweithredwr Gwerthiant Telemat, a soniodd am bwysigrwydd Cymorth TG i fusnesau bach ac amlinellodd y gwahanol opsiynau sydd ar gael gan Telemat, yn amrywio o becyn Talu-wrth fynd am £25 i  becynnau  sy’n cynnig yr ystod gyfan o gymorth TG. Am ragor o wybodaeth ewch i www.telemat.co.uk

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar fore Mercher, 5ed Rhagfyr yng Ngwesty’r Emlyn am 7.30am. Mae hwn yn gyfle delfrydol i roi hwb i’ch busnes ac i rannu profiadau am faterion sy’n wynebu pob busnes. Mae tocynnau ar gyfer y cyfarfod nesaf ar gael trwy fynd i: www.eventbrite.co.uk/e/ccp-business-networking-group-tickets-52304855230.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction