Grant Busnes I Ffermydd

Trydydd cyfnod ymgeisio ar agor nawr.

Mae’r cynllun Grant Busnes i Ffermydd (FBG) yn becyn grant cyfalaf, a’i cynlluniwyd i helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol. 

Mae’n darparu cyfraniad grant tuag at eitemau offer a pheiriannau sydd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i fentrau  Ffermydd.

Mae’r eitemau sydd ar gael drwy’r cynllun yn cwmpasu’r pum thema isod:

  • Geneteg, Perfformiad ac Iechyd Anifeiliaid
  • Rheoli Cnydau
  • Effeithlonrwydd Adnoddau
  • Effeithlonrwydd Ynni
  • TGCh

 

Y grant lleiaf sydd ar gael yw £3,000 a’r mwyaf sydd ar gael yw £12,000.

Os gwnaethoch gais am FBG yn un o’r ddau gyfnod ymgeisio cyntaf a bod eich cais wedi’i ddewis ond na wnaethoch hawlio’r grant mwyaf o £12,000, yna cewch wneud cais hefyd yn y cyfnod ymgeisio hwn neu’r nesaf.

Mae’n ofynnol i holl fusnesau sy’n gwneud cais am FBG mynychu un o ddigwyddiad Cyswllt Ffermio.

Mae FBG ar gael drwy ddefnyddio RPW Ar-lein.  . Er mwyn cael mynediad at RPW Ar-lein, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio’r system ar-lein, cysylltwch a’r  Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Am fanylion pellach ar gyfer gwneud cais ar ddogfennau cynorthwyo’r cynllun, yna gwelwch y linc isod:

www.llyw.cymru/Cynllun Grant Busnes i Ffermydd

 

Mae’r cyfnod yn cau ar 16 Mawrth 2018

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction