Menter Antur Cymru, yn falch o gyflenwi contract cefnogaeth Busnes Cymru ar draws Canolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru
Cychwyn, rhedeg a thyfu eich busnes gyda Busnes Cymru
Mae gennym dîm o gynghorwyr profiadol a all gynnig cyngor ar bob agwedd o gychwyn, rhedeg a thyfu eich busnes.
Rydym yn cynnig gweithdai a weminarau rhithiol i roi rhagflas a gallant gynnwys pynciau Cychwyn a Rhedeg Eich Busnes, Cyllid, Marchnata, Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd.
Bydd ein Swyddogion Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cynnal ymgynghoriad dros y ffôn gyda chi er mwyn asesu eich anghenion a rhoi pecyn cymorth ar waith a all gynnwys cefnogaeth un i un gan Gynghorydd Busnes profiadol.
Fel arfer, bydd y Cynghorydd Busnes yn adolygu eich syniad ac yn cynnig cyngor ar gynllunio ac ariannu busnes, cynnig cefnogaeth gyda marchnata a gweithrediadau er mwyn eich cyfeirio at gynghorwyr arbenigol a gwasanaethau eraill y llywodraeth.
Tyfu eich busnes
Efallai eich bod eisoes wedi cychwyn eich busnes neu’n gwmni wedi’i sefydlu gyda hanes masnachu. Gallwn eich helpu i dyfu a nodi cyfleoedd. Yn ddiweddar, fe wnaethom helpu rhoi nifer o fusnesau mewn cysylltiad â chymorth y llywodraeth yn ystod Argyfwng COVID-19.
Bydd ein cynghorwyr yn fwy na pharod i adolygu cynlluniau busnes a chyllid a’ch cyfeirio at ein tîm arbenigol. Gellir darparu’r gwasanaeth hwn yn rhithiol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Gall ein cynghorwyr profiadol weithio gyda chi i...
Archwilio cyfleoedd tendro
Dechrau neu ehangu masnachu rhyngwladol
Lleihau eich effaith ar yr amgylchedd ac arbed costau
Recriwtio a rheoli staff gan gynnwys datblygu contractau cyflogaeth
Deall gofynion treth a chadw llyfrau
Cymorth i gychwyn, rhedeg a thyfu eich busnes
Cam 1 Archebwch le ar weithdy sy’n archwilio’r camau ar gyfer sefydlu a rhedeg busnes llwyddiannus
Cam 2 Trefnwch sesiwn un i un gyda chynghorydd busnes profiadol am gefnogaeth arbenigol diduedd