Cymraeg language logo

Menter Antur Cymru a gwasanaeth cymorth busnes Busnes Cymru

Mae Menter Antur Cymru yn darparu gwasanaeth cymorth busnes, Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru ac yn darparu cyngor busnes ar draws Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru.

Os ydych chi'n ysytried dechrau busnes yng Nghymru, neu'n edrych i dyfu eich busnes yng Nghymru, gallwn gynnig cyngor busnes mewn meysydd megis benthyciadau dechrau busnes, sefydlu busnes, sefydlu cwmni neu hyfforddiant busnes. Rydym yn darparu cyngor busnes, gweminarau a gweithdai wedi'u hariannu'n llawn.

Os ydych chi'n fusnes sy'n bodoli eisoes yng Nghymru ac sy'n edrych i dyfu neu arloesi, mae gennym Ymgynghorwyr - wedi eu hariannu’n llawn - ar gael i'ch helpu chi i adolygu'ch busnes, datblygu eich cynllun busnes, ailasesu eich amcanion busnes, dyfeisio cynlluniau marchnata a'ch cynorthwyo i gynllunio’n ariannol a llunio rhagamcaniadau ariannol, bob un yn ystyriaeth allweddol cyn gwneud cais am gyllid.

I drefnu apwyntiad gydag un o’n tîm o 60 o Ymgynghorwyr Busnes Cymru ar draws y Canolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru, cysylltwch â thîm y Canolbarth a’r Gorllewin ar 01267 233749 a thîm y Gogledd ar 01745 585025.

 

Wrth wneud ymholiad am ein gwasanaeth cyngor busnes, Busnes Cymru a ydych:

 

  • yn pendroni ynglŷn â sut i ddechrau busnes? - gofynnwch am ein rhaglen Rhoi Cynnig Arni
  • yn pendroni sut i dyfu eich busnes cyfredol? - gofynnwch am ein rhaglen ôl-gychwyn
  • a oes angen cyllid ar eich busnes? - gofynnwch am gyfleoedd cyllido busnes yng Nghymru.
  • yn chwilio am gyllid i ddechrau? - gofynnwch am ein gwasanaeth Benthyciadau Dechrau Busnes.
  • yn entrepreneur ifanc rhwng 16 a 24? - gofynnwch am raglen Syniadau Mawr Cymru.

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction