AROLWG DIGIDOL AR GYFER CWMNÏAU BACH A CHANOLIG

Bydd Uned Ymchwil Economi Cymru Prifysgol Caerdydd yn lansio’r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol blynyddol diweddaraf ar 10 Medi ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae’r arolwg yn darparu’r prif ffynhonnell ddata ar aeddfedrwydd digidol busnesau Cymru – trwy adlewyrchu eu sgiliau TG a’u defnydd o dechnolegau digidol.

Mae tystiolaeth o’r Arolygon Aeddfedrwydd Digidol blaenorol (2016 a 2017) yn dangos bod busnesau wedi elwa’n sylweddol o fabwysiadu technoleg o’r fath, gyda 50% o fusnesau bach a chanolig Cymru yn nodi codiad mewn elw o ddefnyddio band eang cyflym iawn.

Bydd pob busnes sy’n cymryd rhan yn arolwg 2018 yn gymwys i dderbyn copi o’u Sgôr Aeddfedrwydd Digidol am ddim (bydd hyn yn cael ei anfon at bawb sy’n cymryd rhan yn gynnar yn 2019), gan ddangos sut maent yn cymharu ag eraill yng Nghymru.
Gallwch weld yr arolwg yma: https://bit.ly/2w2koYe

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction