Dewi Williams yn adolygu gwaith Antur Teifi yn 2014-15

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Antur Teifi yn ddiweddar a gynhaliwyd ar safle Caws Cenarth, sef cwmni lleol sy’n cynhyrchu caws yn Nyffryn Teifi, cyflwynodd Dewi Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, y wybodaeth ddiweddaraf i’r cyfranddalwyr am yr hyn a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn fusnes 2014/15, a rhoddodd grynodeb o’r mentrau y mae Antur Teifi yn eu gweithredu ar hyn o bryd.

Roedd yr uchafbwyntiau a gyflwynwyd yn cynnwys y canlynol:

  • Yn ariannol: cafwyd cynnydd o £258,000 yn nhrosiant y sefydliad, sy’n gynnydd o 8.1% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Er bod y gwarged o £33,900 cyn treth yn gadarnhaol, roedd yn is na’r ffigur ar gyfer y flwyddyn flaenorol oherwydd nifer o fuddsoddiadau allweddol:
  • Cafwyd buddsoddiad sylweddol gan Antur Teifi mewn gwaith i hyrwyddo Antur Teifi a’i frandiau, gwefannau newydd a gwefannau wedi’u diweddaru ac ati.
  • Buddsoddwyd mewn systemau a phrosesau diogelwch gan lwyddo i ennill achrediad Cyber Essentials eleni.
  • Cyflwynwyd system newydd ar gyfer Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, sy’n gysylltiedig â systemau cyfrifyddu Antur Teifi, a fydd yn sicrhau bod prosesau busnes-i-fusnes yn y sefydliad yn fwy effeithlon.
  • Buddsoddwyd mewn dwy adran newydd, sef:
    • Datblygu a Gwerthu, sy’n canolbwyntio ar weithgarwch incwm busnes-i-fusnes, a
    • Perspectif, sef gwasanaeth newydd ar gyfer deall y farchnad, a lansiwyd ym mis Chwefror 2015.
  • Hyfforddiant i staff.
  • Yr agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth – roedd ennill Safon Aur C2E yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled a wnaed gan y tîm cyflawni a weithiodd yn ddiwyd i ennill y safon.
  • Gwnaethpwyd gwelliannau pellach i bolisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, sydd wedi’u hategu gan asesiad a gynhaliwyd gan ACAS.
  • Llwyddwyd i leihau rhwymedigaethau hirdymor.
  • Llwyddwyd i gwblhau trafodaethau â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi ynghylch cyfrifoldebau’r sefydliad o ran treth.

Esboniodd Dewi sut y bydd y gweithgarwch a’r buddsoddiadau hyn yn helpu’r sefydliad i fod yn fusnes mwy cynaliadwy wrth baratoi ar gyfer y cyfleoedd sydd ar gael i’r cwmni.

Nododd Dewi sut yr oedd y buddsoddiad eisoes wedi dechrau talu ar ei ganfed o ran y ffaith bod y sefydliad wedi ennill gwaith newydd yn ystod y flwyddyn:

  • Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Antur Teifi ymgymryd â Lot 2 Gwasanaeth Busnes Cymru i Fusnesau Newydd, sy’n ymdrin â Sir y Fflint a Wrecsam.
  • Gofynnodd Start Up Loans i Antur Teifi ymgymryd â’r gwaith o ddarparu ei wasanaeth benthyciadau dechrau busnes ar draws y gogledd-orllewin, sy’n golygu bod Antur Teifi bellach yn gweithredu ar draws Cymru gyfan ar wahân i’r de-ddwyrain a’r Cymoedd.
  • Mae ffrwd incwm busnes-i-fusnes Antur Teifi yn parhau i dyfu’n gyson.

Yn ogystal, llwyddodd Antur Teifi i sicrhau rhai canlyniadau trawiadol ar sail canlyniadau targed ei gontractau yn ystod 2014/15.

O ganlyniad i waith ar amryw gontractau’r Llywodraeth, cafodd 561 o fusnesau newydd gymorth i ddechrau arni a rhoddwyd cymorth i dros 7,100 o fusnesau. Yn ogystal, cafodd 1,889 o swyddi eu creu, eu diogelu neu’u llenwi*, a oedd yn ffigur llawer uwch na’r targed.

Mae ymgynghorwyr Antur Teifi wedi gweld bod busnesau’n cymryd camau i ofyn am gymorth, yn benodol er mwyn cefnogi eu dyheadau o ran tyfu.

Un o ddangosyddion perfformiad yr economi’n ehangach yw bod nifer y bobl a gaiff eu cyfeirio atom o’r Ganolfan Byd Gwaith 43% yn is na’r nifer a ragwelwyd.

Amlinellodd Dewi y cyfleoedd a allai godi yn sgîl gweithgareddau newydd a’r risgiau a allai fod yn wynebu ein gweithgareddau presennol wrth i un o raglenni ariannu’r Llywodraeth ddod i ben ac wrth i raglen arall ddechrau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Yn ogystal, esboniodd gylch bywyd contract, sy’n golygu bod un o raglenni cymorth blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Busnes Cymru, yn dechrau ar gyfnod contract newydd yn dilyn proses dendro newydd.

Gan droi at agenda Antur Teifi fel menter gymdeithasol, pwysleisiodd Dewi ddiben ac ymrwymiad clir Antur Teifi i helpu busnesau i berfformio’n well a chyfrannu i economi sy’n tyfu.

Mae’r sefydliad yn parhau i gyfrannu i strategaethau datblygu economaidd lleol, ac mae wedi cael ei wahodd i fod yn rhan o weithgareddau newydd yng Ngheredigion a Sir Gâr.

Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y llynedd, mae gweithgarwch pellach sy’n ymwneud â busnes wedi’i gyflawni yn Nyffryn Teifi yn dilyn trafodaeth yn Llanbedr Pont Steffan yr oedd yr arbenigwr ar y Stryd Fawr, Bill Grimsey, yn rhan ohoni.

Rhoddodd Antur Teifi gyllid i Angharad Williams, perchennog siop Lan Llofft yn Llanbedr Pont Steffan, fynychu’r gynhadledd Adnewyddu Canol Trefi yn Nottingham. Roedd y gynhadledd hon yn ystyried ffyrdd y gall canol trefi wella a rhannu gwybodaeth. Ers y digwyddiad mae Angharad wedi bod yn sôn am ei chanfyddiadau drwy gyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid yn Nyffryn Teifi.

Bydd Antur Teifi yn parhau i ddefnyddio ei adnoddau a’i arbenigedd i chwarae ei ran yn y gwaith o wella perfformiad yr economi mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill.

Cyn dod â’i anerchiad i ben, pwysodd Dewi ar y sawl a oedd yn bresennol i fwrw golwg ar y ddogfen Uchafbwyntiau newydd a’r wefan, lle mae gwybodaeth ar gael am straeon llwyddiant y busnesau a’r unigolion a gafodd gymorth gan Antur Teifi yn ystod y flwyddyn. Eleni, esboniodd Dewi fod y ddogfen yn cynnwys blwyddiadur wal ar gyfer 2016 er mwyn galluogi busnesau i ddechrau cynllunio eu gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gan mai’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hwn oedd yr un olaf i Owain Davies fel Cadeirydd Antur Teifi, ar ôl 8 mlynedd prysur yn y swydd, diolchodd Dewi i Owain am ei waith caled a’i gymorth a chroesawodd Beverley Pold i’w rôl fel Cadeirydd y sefydliad – sefydliad sy’n flaengar ac yn uchelgeisiol ynghylch ei rôl fel darparwr gwasanaethau busnes blaenllaw.

*Mae’r targed ar gyfer swyddi a gaiff eu creu a’u diogelu yn rhan o’r canlyniadau contract ar gyfer targedau Llywodraeth Cymru i Busnes Cymru a’r gwasanaeth i Fusnesau Newydd. Mae’r canlyniad sy’n ymwneud â swyddi a gaiff eu llenwi’n rhan o’r dangosyddion perfformiad targed ar gyfer contract Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau a gyflawnir ar ran JobFit.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction