Rydym wedi darparu datrysiadau Wi-Fi i 22 o drefi yng Nghymru
Datrysiadau Wi-Fi Tref
Gall Telemat gynnig gwasanaethau pennu cwmpas, manylebau, dod o hyd i ffynonellau, gosod a gwaith cynnal parhaus ar gyfer systemau Wi-Fi Tref. Mae ein datrysiadau yn cynnig mynediad llawn i ddyfeisiadau i’r rhyngrwyd mewn lleoliadau cyhoeddus gan gynnwys datrysiadau sydd wedi’u teilwra ar gyfer canol trefi, meysydd awyr, atyniadau ymwelwyr, safleoedd gwersylla a charafanio a nifer o gymwysiadau eraill.
Trwy ein datrysiadau Wi-Fi, all eich lleoliad chi elwa o gynnydd mewn nifer ymwelwyr trwy farchnata, gan hyrwyddo’r wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr.
Marchnata Tref trwy’r cyfryngau cymdeithasol
Gall Telemat ddadansoddi data eich Wi-Fi er mwyn deall arferion siopa a llwybrau cerdded / teithio defnyddwyr canol trefi. Medrwn ddarparu data er mwyn cefnogi strategaethau adfywio tref a chynorthwyo i adeiladu cynlluniau marchnata wedi’u teilwra ar gyfer trefi yn seiliedig ar y data.
Medrwn eich cynorthwyo i gyfleu negeseuon gwerthiant allweddol i ddefnyddwyr canol trefi gan dynnu sylw at ddigwyddiadau, siopau, cynigion a rhesymau eraill dros ddychwelyd, trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol.