Mae Gwasanaethau TG Telemat yn darparu CLG i fwy na 100 o fusnesau ar draws Cymru

Cymraeg language logo

Datrysiadau Wi-Fi i Fusnesau a swyddfeydd

Gall Telemat gynorthwyo i sicrhau bod eich busnes a’ch cwsmeriaid yn ddiogel ar lein a medrwch reoli’r safleoedd y mae eich cwsmeriaid yn medru cael mynediad iddynt. Mae ein datrysiadau Wi-Fi sydd wedi’u teilwra i fusnesau mawr a bach yn cynnig cefnogaeth reoli lawn gan ein tîm cefnogi a leolir yma yn Nghymru a hynny o bell ac ar safle.

Datrysiadau TG Gweithio o Bell

Mae Datrysiadau TG Telemat wedi dod yn arbenigwyr ar gysylltu pobl sy’n gweithio o adref, ac yn ddiweddar llwyddwyd i addasu mwy na 60 aelod o staff ar gytundeb Busnes Cymru i fedru dderbyn cysylltedd llawn.

O fewn 48 awr roedd y gweithwyr yn gweithio’n ddi-dor o adref.  Ers hynny rydym wedi gweithio gyda chwmnïau gwasanaethau proffesiynol, yn cynnwys cyfrifwyr, cyfreithwyr, cwmnïau gwasanaethau ariannol, Llywodraeth Cymru, busnesau twristiaeth a mudiadau Trydydd Sector.

Rydym yn hapus i gynnig ymgynghoriad cychwynnol rhad ac am ddim o ran trefnu lle gwaith, ymgynghoriad meddalwedd, materion seiberddiogelwch a defnyddio meddalwedd megis Microsoft Teams er mwyn cadw eich gweithwyr mewn cysylltiad o bell ac yn rhan o’ch tîm.

Astudiaethau achos

Holwch am datrysiadau Wi-Fi i fusnesau

Error: Contact form not found.

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction