Mae Gwasanaethau TG Telemat wedi darparu Wi-Fi Tref i 22 o drefi ledled Cymru

Cymraeg language logo

Telemat - Gwasanaethau Cefnogi TG i Fusnes

Mae Telemat yn darparu datrysiadau wedi'u teilwra ar gyfer busnesau o bob maint ar draws Cymru gyda thîm medrus o dechnegwyr dwyieithog yn cynnig ystod o wasanaethau busnes TG ac Ymgynghoriaeth TG i fusnesau.

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys Di-Wifr i Fusnes, datrysiadau TG gweithwyr-o-bell a chytundebau cefnogaeth ddesg gymorth. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau i gefnogi’r gwaith o gyflwyno prosiectau penodol yn cynnwys cynllunio prosiect, manyleb, costio, cyrchu a gosod – popeth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich prosiect yn rhedeg yn effeithlon ac yn gost-effeithiol.

Mae ein cytundebau cefnogaeth ddesg gymorth TG yn sicrhau bod gan eich staff fynediad uniongyrchol at yr holl arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gadw’r systemau i weithredu'n effeithiol a'u hamddiffyn rhag y risg o golli data neu achos o seiber-dwyll. Mae'r holl becynnau cymorth misol yn cynnwys strategaethau cadarn i ddiogelu data, cynnal a chadw cofrestr asedau yn ogystal ag archwiliad blynyddol yn rhad ac am ddim i sicrhau bod eich busnes yn cynllunio ar gyfer newidiadau angenrheidiol i galedwedd a diweddariadau i’r systemau. Un o'r risgiau mwyaf o ran colli amser yn eich busnes yw colli cyfrineiriau. Mae ein profiad o weithio'n agos gyda busnesau i ddeall eu gofynion yn dangos bod datrys y materion hyn yn brydlon yr un mor allweddol i'w gweithrediadau busnes â’r gallu i gefnogi methiannau fwy cymhleth.

Gofynnwch am yr amrwyiaeth o becynnau cefnogaeth wedi’i eu teilwra ar gyfer eich anghenion busnes unigol chi:

  • Gwasanaethau TG i Fusnes yn cynnwys prosiectau unwaith-ac-am-byth ac ymgynghoriaeth
  • Cytundebau Cefnogaeth TG i Fusnes
  • Datrysiadau Gweithio-o-bell
  • Datrysiadau Mannau Gwan Band Eang
  • Seiberddiogelwch
  • Gwasanaeth Ymgynghori
  • Datrysiadau Di-Wifr Canol Trefi
  • Di-Wifr i Fusnesau Lletygarwch

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction