Cynllunio’ch ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol gyda chalendrau cynnwys.

Cynllunio’ch ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol gyda chalendrau cynnwys.

Gall cadw rheolaeth a chreu cynnwys ar gyfer sianeli’r cyfryngau cymdeithasol ar yr un pryd fod yn heriol.

Gall calendr cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gynllunio eich cynnwys a chreu darlun o’ch strategaeth o ran amserlennu.  Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn medru paratoi

cynnwys da, perthnasol, fydd yn tynnu sylw eich cynulleidfa ar amserau priodol.

Dyma 9 tip i’ch helpu i gynllunio:

1. Adolygwch a mesurwch eich gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol.

Un o fanteision marchnata digidol yw bod bron popeth yn fesuradwy. Mae’n werth cymryd amser i fynd drwy eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’ch negeseuon i weld beth pa fath o ymateb ry’ chi’n ei gael.

Nodwch y math o gynnwys sy’n ennyn y weithgarwch fwyaf ar bob platfform. Mae angen i chi nodi hefyd pa negeseuon sbardunodd y sgwrs fwyaf. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o’r hyn sydd angen i chi ganolbwyntio arno er mwyn cynllunio eich gweithgarwch dros y mis neu ddau nesaf efallai.

2. Diffiniwch eich amcanion busnes.

Sicrhewch fod eich amcanion busnes ar waith cyn i chi ddechrau eu hyrwyddo. Rhowch ystyriaeth i’r elw ar eich buddsoddiad (ROI) o ran amser a gwariant. Edrychwch ar yr ymatebion, y likes, beth sy’n cael ei rannu a’r gweithgareddau busnes megis yr ymholiadau a’r gwerthiannau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn ceisio cynyddu dilynwyr a chysylltiadau – yn debyg i LinkedIn –  wrth gynyddu eich cronfa o gysylltiadau.

Mae’n bwysig hefyd eich bod yn edrych ar y traffig sy’n cyrraedd eich gwefan trwy’r ôl-ddolenni a’r cyfleoedd sy’n codi o bob platfform. Gwnewch nodyn o’r traffig a’ch perfformiad ar apiau fel Google Analytics a sylwch ar sut mae perfformiad eich gwefan wedi newid wrth i chi redeg ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol.  Nodwch y newidiadau a’u defnyddio i wella eich ymgyrchoedd a mesur yr ROI.

Ni fydd gwthio cynnwys heb bwrpas o fudd i’ch busnes.  Yn wir, mae’n wastraff ar eich amser, ymdrech ac adnoddau.

3. Cynlluniwch eich cynnwys i gael y gorau o’r ROI.

Pan fydd eich amcanion yn glir yna mae’n amser cynllunio’r cynnwys.  Y demtasiwn yw i ddefnyddio darn o gynnwys sy’n perfformio’n dda dro ar ôl tro ac i barhau i bostio cynnwys tebyg ddydd ar ôl dydd ac wythnos ar ôl wythnos. Er y gallai hyn weithio i ddechrau, bydd yn lleihau’r budd dros amser.

Mae angen i chi fod yn wybodus, yn arloesol ac yn greadigol wrth ddyfeisio cynnwys newydd. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn postio’r un math o gynnwys. Bydd eich dilynwyr yn diflasu ar yr un hen negeseuon ac efallai yn penderfynu peidio â’ch dilyn.

4. Rhaid i chi gael amlder cyhoeddi eich negeseuon yn iawn.

Ni fydd llwyddiant ar y cyfryngau cymdeithasol yn digwydd dros nos. Bydd angen i chi dreialu a gwneud camgymeriadau yn ogystal â gweithio’n galed a bod yn amyneddgar wrth ddysgu beth sy’n gweithio i’ch busnes a beth sy’n bachu eich cynulleidfa. Rhan o’r dysgu hwn fydd darganfod dros eich hun pa mor aml y mae angen i chi bostio ar y llwyfannau gwahanol.

Byddwch yn realistig am ba mor aml y gallwch gyhoeddi cynnwys newydd. Meddyliwch am yr adnoddau sydd gennych chi neu’ch tîm o ran amser. Os taw dim ond tair gwaith yr wythnos y gallwch ymrwymo i bostio, mae hynny’n iawn ond bydd yn rhaid cadw at hynny.   Ansawdd nid nifer sy’n bwysig os ydi’r adnoddau’n brin.

5. Dylech gadw negeseuon bytholwyrdd wrth law.

Peidiwch â bod ofn ail-ddefnyddio cynnwys blaenorol os yw’n dal yn berthnasol i’ch amcanion busnes ac i’ch cynulleidfa.

Os ydych chi’n darllen hwn, yna ry’ chi’n ymwybodol bod blogiau’n darparu cynnwys hir dymor ac nad oes rhaid dibynnu ar dueddiadau cyfredol i fod yn berthnasol.

Dysgwch y gwerth o greu cynnwys gellir ei ail-rannu. Gallwch hefyd ddefnyddio cynnwys wedi ei baratoi gan arbenigwyr, erthyglau diddorol a gwybodaeth sydd ar wefannau eraill ond cofiwch gyfeirio at ffynhonnell y wybodaeth.

6. Chwiliwch am ddigwyddiadau arbennig.

Mae’r flwyddyn yn llawn o ddigwyddiadau arbennig.  Gwnewch ychydig o waith ymchwil am y gwyliau lleol, cenedlaethol neu ryngwladol sy’n digwydd.  Os gwelwch fod yna gysylltiad â’ch  busnes yna’u defnyddiwch fel thema ar gyfer tynnu sylw i’ch cynnyrch neu wasanaeth.   Bydd defnyddio Calendr Cynnwys yn sicrhau nad ydych yn anghofio am y dyddiadau perthnasol.

7. Dewiswch eich offer cyhoeddi.

Mae lanlwytho eich negeseuon o’ch dyddiadur neu o’ch cynllun cyfathrebu marchnata â llaw yn ffordd anodd o wneud pethau. Dewiswch offeryn cyhoeddi a fydd yn eich helpu i wneud y gorau o’ch amser.

Mae awtomeiddio yn helpu i arbed amser, yn sicrhau cysondeb ac yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Mae calendr cyfryngau cymdeithasol sydd wedi ei gynllunio’n dda yn fframwaith ar gyfer yr hyn ry’ chi’n bwriadu ei rannu a’i hyrwyddo ar draws pob platfform.

8. Blaengynllunio eich calendr cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Gall y ddelwedd isod gynnig man cychwyn effeithiol i chi wrth gynllunio eich cynnwys mewn taenlen Excel syml.  Bydd meddalwedd cyfryngau cymdeithasol awtomataidd megis

Hootsuite a Facebook Business Manager yn cynnwys yr offer cynllunio yma yn rhan o’u pecynnau. O ran gwerth ychwanegol, byddant yn medru cynaeafu’r data ac yn eich galluogi i gynhyrchu adroddiadau yn dangos sut mae eich negeseuon a’ch cynnwys yn perfformio.

Gwnewch ychydig o waith ymchwil ar lein i weld a oes yna becyn gall eich helpu i greu calendr cynnwys effeithiol i yrru eich marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol.  Mae’n arfer da i gynllunio misoedd o flaen llaw a gyda manylder.

Dyma enghraifft o fis o gynllunio mewn calendr cynnwys blynyddol:

Dyma enghraifft o fis o gynllunio mewn calendr cynnwys blynyddol:

9.  Cynllunio blynyddol i roi darlun i chi o ba gynnwys i gadw llygad arno yn unol â’ch cynllun busnes corfforaethol.

Arfer da arall yw cynllunio eich blwyddyn ymlaen llaw i gadw’r broses o gynhyrchu syniadau yn fyw a sicrhau eich bod yn paratoi eich delweddau a’ch cynnwys mewn da bryd.

Dyma enghraifft o galendr cyfryngau cymdeithasol blynyddol i’ch helpu i gynllunio eich blwyddyn a’ch digwyddiadau eich hun yn ogystal â rhai cenedlaethol.

Dyma enghraifft o galendr cyfryngau cymdeithasol blynyddol i’ch helpu i gynllunio eich blwyddyn a’ch digwyddiadau eich hun yn ogystal â rhai cenedlaethol.

A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata?  Oes angen mireinio eich negesuon cyfathrebu neu  a oes angen ail-gynllunio eich  llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu wefan?

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://anturcymru.org.uk/consultancy-services/

Neu holwch am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Busnesau Cymreig trwy siarad â Dai Nicholas,

ein Rheolwr Marchnata ar 07736542280.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction