Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Bwriad y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) yw helpu pobl sy’n cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ar lefel gynradd, a hefyd busnesau sy’n ymgymryd â gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail gam yng Nghymru. Gall y Cynllun sicrhau buddsoddiad cyfalaf a chymorth arall i brosiectau lle y caiff o leiaf 90% o gynhyrchion amaethyddol cymwys eu prosesu.

Mae’r cynllun yn croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o fentrau sy’n ymwneud â phrosesu cynhyrchion amaethyddol ar lefel cynradd a/neu eilaidd, gan gynnwys:

  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau’r sector gwirfoddol
  • cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus (BBaCh a Mentrau Mawr)
  • busnesau fferm sydd am brosesu eu cynhyrchion amaethyddol eu hunain
  • busnesau newydd gan gynnwys busnesau sy’n dechrau.

Mae manylion pellach ar y meini prawf ar gyfer gwneud cais ar gael drwy ddarllen Nodiadau Cyfarwyddyd Datganiad o Ddiddordeb a dogfennau cynorthwyol y cynllun.

Mae’r ffenest bresennol yn  cau ar y 19 o Fedi, ond bydd yna gyfle eto pan fydd y ffenest nesaf yn agor ar 29 Hydref ac yn cau ar y 3 Rhagfyr.

Am ragor o wybodaeth ewch i gov.wales:

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction