Cymorth TG Telemat yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru

Yn y llun yn cymeryd hoe ar ôl uwchraddio’r System Di-Wifr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru mae Aled Davies a Adam Jones.

Fel rhan o’i bartneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae cwmni Cefnogaeth TG Telemat wedi cwblhau uwchraddiad mawr yn ddiweddar ar system Di-Wifr ym mhob un o’r wyth amgueddfa ledled Cymru.

Wedi cefnogi Amgueddfa Genedlaethol Cymru ers 2018, roedd y gwaith hwn yn rhan o’r cytundeb gwreiddiol i ddarparu uwchraddiadau a gosodiadau Di-Wifr yn ystod tymor y cytundeb.  Yn y broses dendro ledled Ewrop, llwyddodd Telemat i guro cystadleuaeth gan bedwar gosodwr Di-Wifr busnes arall yn y Du.  Canmolwyd cyflwynid Telemat nid yn unig am ei ddealltwriaeth o’r gofynion ond hefyd am ei fanyleb “uwch na’r disgwyl.”

Yn dilyn yr uwchraddiad, gall yr amgueddfeydd nawr gynnig cysylltiad Di-Wifr cyflymach i ymwelwyr a staff yn ogystal â’r gallu i gyrchu data dadansoddol o’r niferoedd a thueddiadau ymwelwyr.  Mae’r swyddogaeth hon yn darparu cyfleoedd marchnata gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau ac amlygu nodweddion allweddol pob amgueddfa.

Mae rhai o’r safleoedd sydd wedi elwa o’r uwchraddio yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei hun yng Nghaerdydd, yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol yn Llanberis, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Drefach Felindre a Mwyngloddiau Aur Dolaucothi.

I ddarganfod mwy am Gytundebau Cymorth Busnes TG, Di-Wifr ar gyfer Busnes a Threfi neu datrysiadau Busnes TG cliciwch ar y dolenni canlynol:

https://anturcymru.org.uk/it-solutions/

www.telemat.co.uk

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction