Cyllid yn rhoi Llŷr ar ben ffordd

Mewn partneriaeth â chwmni Start Up Loans, penodwyd Antur Teifi i ddarparu’r gwasanaeth Benthyciadau Dechrau Busnes ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro a Gogledd Cymru.

Mae llawer o gwmnïau newydd a busnesau bach yn aml yn ei chael yn anodd i gael benthyciad drwy ddulliau traddodiadol megis banciau.  Ers yr argyfwng ariannol, mae benthyca i fusnesau bach a chanolig yn dal i fod yn her i fanciau’r stryd fawr.

Ers 2013 mae’r Start Up Loan Company wedi cynnig llwybr arall i  dros 24000 o unigolion sydd wedi cael syniad busnes da, ond heb fynediad at gyllid.

Hyd yn hyn, maent wedi rhoi benthyg tua £130,000 gyda maint benthyciad ar gyfartaledd o £6,000. Mae’r swm terfynol yn amryiwo ac yn cael ei benderfynu gan eich cynllun busnes. Ie, y cynllun busnes bondigrybwyll!  Ond peidiwch â becso.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda ni, byddwn yn eich paru ag ymgynghorydd busnes a fydd yn mynd drwy eich cynnig busnes gyda chi AC yn eich helpu gyda’r cais am fenthyciad gan gynnwys cymorth wrth gwblhau’r cynllun busnes a rhagolygon llif arian er mwyn eich rhoi yn y sefyllfa gryfaf bosibl i sicrhau cais llwyddiannus.

Ar ôl i chi gael eich benthyciad, byddwn yn eich paru â mentor addas, yn cynnig cwrs hyfforddi yn rhad ac am ddim ynghyd â chynigion busnes eraill.

Mae Antur Teifi  hyd at heddiw, wedi derbyn 112 o geisiadau 78 ohonynt wedi eu cyflwyno i SULCCo a 64 o’r rheini wedi cael eu cymeradwyo. Mae’r mathau o fusnes yn amrywiol iawn, gan gynnwys

  • Harddwch
  • Gwasanaeth Ceir
  • Fan Arlwyo
  • Harddwch i g?n
  • Perchennog gwesty bach
  • Trin Gwallt
  • Mecanic
  • Siop goffi symudol
  • Cerddor
  • Canolfan Trampolîn
  • Cyflenwr Offer Milfeddygol
  • Hyfforddwr Ioga

Ll?r yn llwyddo i roi sglein ar bethau gyda Benthyciad Dechrau Busnes

Wedi gadael yr ysgol, hyfforddodd  Ll?r Jones o Landysul yn beiriannydd ceir er mwyn troi diddordeb yn broffesiwn.

O dipyn i beth, gwelodd Ll?r fod yna fwlch yn y farchnad am wasanaeth arwynebu â phowdwr.  Penderfynodd ddechrau busnes ei hunan: LJ Powder Coating Services.

“Dwi wastad wedi mwynhau tynnu pethau’n ddarnau a’u rhoi nhw nôl at ei gilydd fel newydd” meddai Ll?r.  “Dyna egin y syniad “

Gyda chymorth gan Ymgynghorydd Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru yn Antur Teifi i roi cynllun busnes at ei gilydd , gwnaeth Ll?r gais am Fenthyciad Dechrau Busnes.

“O’n i wrth y’m modd pan ges i wybod fod y cais wedi bod yn llwyddiannus”. Caniataodd y benthyciad i fi brynu’r offer gorau posib i’r fusnes yn ogystal ag amrywiaeth eang o gotiau er mwyn cynnig i’r cwsmer amrywiaeth o liwiau,a gweadau.”

Roedd sefydlu busnes yn ei gynefin yn bwysig i Ll?r.  Diolch i’r Benthyciad Dechrau Busnes mae e wedi llwyddo i wneud hynny.

Felly, os ydych yn ystyried dechrau busnes neu wedi bod yn masnachu am lai na dwy flynedd, ffoniwch Rob Arlington ar 01239 71028 neu e-bostiwch [email protected]

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction