Cyflwyno gwasanaeth i helpu busnesau

Diwrnod gorau’r mis – diwrnod cyflog. Rydym i gyd yn cymryd yn ganiataol y gallwn ni fynd i’n cyfrifon banc ar y diwrnod hwnnw bob mis gan wybod y bydd ein cyflog yno i roi gwên ar ein hwynebau. Ond sut y mae’r swm cywir yn cyrraedd y lle cywir ar yr adeg gywir? Y gyflogres sy’n gyfrifol am hynny. Mae Antur Teifi wedi bod yn darparu gwasanaeth allanol ar gyfer ymdrin â’r gyflogres ar ran busnesau bach i ganolig eu maint ers 2002. 

Un o’r busnesau hynny yw Undeb Credyd Gorllewin Cymru. Mae’r cwmni yn gweithio yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ac mae’n sefydliad ariannol dielw sy’n cynnig gwasanaeth bancio moesol i’w aelodau. Mae’r cwmni, sydd â’i swyddfeydd yn Aberteifi, wedi tyfu o fod yn cyflogi dau aelod o staff yn wreiddiol yn 2004 i fod yn cyflogi pump erbyn heddiw, a’r rheolwr yw Vanessa Owens. Mae’r cwmni wedi bod yn defnyddio gwasanaeth cyflogres Antur Teifi ers 2007.

“Mae’r gwasanaeth a gynigir gan Antur Teifi mor hawdd a syml i’w ddefnyddio. Y cyfan y mae’n rhaid i ni ei wneud yw e-bostio nifer yr oriau y mae pawb wedi’u gweithio bob mis ynghyd ag unrhyw newidiadau, megis oriau ychwanegol. Yna, caiff y wybodaeth am y gyflogres ei hanfon yn ôl atom at ddiben ein cofnodion,” meddai Vanessa. “Gyda’r holl newidiadau a wnaed yn ddiweddar i faterion sy’n ymwneud â’r gyflogres, a’r adroddiadau perthnasol y mae’n rhaid eu cyflwyno i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae defnyddio gwasanaethau Antur Teifi yn gwneud bywyd dipyn yn haws i ni.”

I gwmni bach ag adnoddau cyfyngedig, megis Undeb Credyd Gorllewin Cymru, gall ymdrin â’r gyflogres fod yn anodd a gall gymryd llawer o amser. Meddai Vanessa, “Mae angen cael unigolyn profiadol i reoli a goruchwylio’r gyflogres. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â chael rhywun arall i wneud y gwaith ar ein rhan yn fach o’u cymharu â chost cyflogi rhywun sydd â’r profiad hwnnw.” Os ydych yn fusnes sy’n ei chael yn anodd ymdopi â newidiadau cyson i reoliadau trethi, delio â Thâl Salwch Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol a ffurflenni P60, ac os ydych am gael llonydd i fwrw ymlaen â’r hyn yr ydych yn ei wneud orau, ffoniwch Delyth yn Antur Teifi i weld sut y gall y staff yno eich helpu – heb dorri’r banc!

Y Gwasnaeth

  • Gweinyddu taliadau cyflog misol
  • Datblygu ffeil ar gyfer data cyflogres
  • Delio â Chyllid a Thollau EM
  • Ymdrin â thaliadau salwch statudol
  • Ymdrin â thaliadau mamolaeth statudol
  • Prosesu ffurflenni statudol cyflogwyr
  • Cwblhau prosesau diwedd y flwyddyn
  • Darparu gwasanaeth cyfeillgar a phersonol
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction