Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ein nod yw bod yn sefydliad lle gall pawb gyflawni eu potensial.

Mae Antur Cymru wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad sy’n gwneud defnydd llawn o’r amrywiaeth o dalentau, sgiliau, profiadau a  safbwyntiau diwylliannol sydd yn rhan o gymdeithas aml – ethnig, a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi,

Rydym yn dilyn canllawiau sy’n ein cefnogi yn ein hymdrechion i sicrhau amgylchedd gwaith lle mae pob un yn cael eu trin yn deg a gyda pharch.

Mae Rhwydwaith Hyrwyddwyr Amrywiaeth y cwmni yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith hwn drwy hwyluso amgylchedd gwaith cadarnhaol yn ogystal â darparu gwasanaethau sy’n dilyn yr un egwyddorion ar gyfer ein cleientiaid.

Mae Antur Cymru yn gosod esiampl yn y byd busnes o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth . Rydym yn glir iawn o ran y manteision busnes a ddaw yn sgil agwedd ragweithiol tuag at amrywiaeth.  Fel sefydliad, rydym yn credu bod tynnu ar ystod eang o brofiadau yn fodd i gyfrannu syniadau newydd a dulliau newydd o weithio.  Mae hyn yn ei dro yn arwain at amgylchedd cynhwysol a chreadigol sy’n rhoi mantais gystadleuol i’r busnes.

Gwyliwch cyflwyniad PowerPoint sy’n amlinellu’r manteision o gydnabod cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithlu.

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction