CRONFA NEWYDD I GEFNOGI’R DEFNYDD O’R GYMRAEG I FUSNESAU

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa o £ 400,000 i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg i fusnesau bach â’r nod o helpu busnesau bach a chanolig i wella ar eu defnydd o’r iaith. Amcan y gronfa yw i  gynyddu amlygrwydd yr iaith Gymraeg yn y gymuned. Bydd y prosiect hefyd yn cynyddu dealltwriaeth a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gryfhau gwasanaethau dwyieithog i gwsmeriaid. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i sefydlu rhwydwaith o ymarferwyr lleol i ddarparu cymorth iaith Gymraeg i fusnesau.

Mae’r fenter hon yn dod yn sgil cyfres o weithdai a drefnwyd gan Antur Teifi yn 2015 ar ran Busnes Cymru o’r enw  “Deall manteision o ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn busnes.”  a baratowyd yn benodol ar gyfer busnesau Dyffryn Teifi gan fusnes  o Dyffryn Teifi ac un o arweinwyr y farchnad ymgynghoraieth yn Ewrop sef  Iaith Cyf.  Paratowyd deunydd ar eu cyfer er mwyn i fusneau gael y budd mwyaf o’r fantais hon a oedd yn cynnwys:

  • cyfathrebu â chwsmeriaid
  • cryfhau’r USP (pwynt gwerthu unigryw)
  • hyrwyddo teyrngarwch cwsmeriaid
  • darparu cyfleoedd i werthu mewn marchnadoedd newydd
  • nodi parch a dealltwriaeth o ddiwylliant yr ardal
  • dangos ymrwymiad i gydraddoldeb

Cynhaliwyd y seminarau  ym mhrif  drefi  Dyffryn Teifi – Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Castell Newydd Emlyn a Llandysul – sesiynau a arweiniodd at well dealltwriaeth o’r deinamig creadigol a rhagweithiol sy’n gyffredin o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith ag â arweiniodd yn ei dro at ddeffroad a / neu gryfhau yr awydd ar bawb a fynychodd i chwarae eu rhan yn y gwaith.

Mae Kate McDermott yn berchen ar siop Ruby Rose yn Llanbedr Pont Steffan ac yr oedd y sesiwn yn agoriad llygad iddi.  Meddai  “Roedd y seminar yn ysbrydoledig ac yn llawn gwybodaeth. Rwyf eisoes wedi cael ffrind gyfieithu  arwydd newydd a neithiwr wnes i lawrlwytho app dysgu Cymraeg  Prifysgol Bangor i ddechrau ar fy siwrne o ddysgu Cymraeg felly mae wedi  cael effaith yn barod “.

LLUN: Kate McDermott

Welsh Language – X Factor for local growth
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction