#creusbarc

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i drawsnewid Cymru drwy ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i sbarduno twf a ffyniant.

Mae entrepreneuriaid yng Nghymru yn creu ac yn datblygu busnesau newydd, bywiog drwy’r adeg. Mae llwyddiant parhaus yr unigolion hyn yn hollbwysig i ledaenu ffyniant. Gyda thoreth o arweinwyr busnes, buddsoddwyr, academyddion, ymchwil a seilwaith, mae gan Gymru’r holl briodweddau sydd eu hangen i helpu entrepreneuriaeth i ffynnu.

Nawr, gyda chyflwyniad CREU SBARC, mae’r holl bethau hyn yn cael eu dwyn ynghyd i annog mwy o entrepreneuriaid yng Nghymru i ymuno â’r rhwydwaith hwn o arloeswyr, buddsoddwyr a doniau academaidd, er mwyn gweddnewid eu syniadau mawr yn gynhyrchion a busnesau eiconig y dyfodol.

Roedd Beverley Pold, Cadeirydd Antur Teifi yn bresennol yn y digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar yr 28ain o Fehefin. Meddai  “Roedd  y digwyddiad yn llwyddiannus  iawn gyda dros 200 o bobl o bob sector yn frwdfrydig am y cyfle i gyfrannu at y weledigaeth entrepreneuraidd newydd hon i Gymru.”

Os ydych chi’n entrepreneur yng Nghymru, gall CREU SBARC roi’r sbardun sydd ei angen arnoch i roi hwb i’ch syniad neu symud pethau ymlaen i’r lefel nesaf. Trwy ymuno â’r mudiad hwn, cewch gyfle i gwrdd a chydweithio â phobl o’r un anian, cael eich ysbrydoli gan arweinwyr busnes gyda hanes o lwyddo a dod i gysylltiad â chyfalafwyr menter sydd am fuddsoddi yn syniadau mawr y dyfodol.

Dyma’ch cyfle i dorri tir newydd a chreu Cymru fwy ffyniannus.  Am fwy o fanylion ewch i

www. creusbarc.cymru/cymryd-rhan/entrepreneuriaid

 

Beverley Pold, Cadeirydd Antur Teifi
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction