Mae eleni’n garreg filltir bwysig i Wobrau Lantra Cymru wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 25 oed. Dros y chwarter canrif diwethaf mae Lantra Cymru wedi darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer y diwydiannau amgylcheddol a diwydiannau’r tir.
I ddathlu’r garreg filltir hon, mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw i’w chynnal ddydd Mercher, 23 Hydref yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrinod
Meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru,
“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn rhoi llwyfan ar gyfer cydnabod a dathlu cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn y sectorau amgylcheddol yng Nghymru.”
Mae’r categorïau’n cynnwys Dysgwr y Flwyddyn y Coleg (dan 26 a dros 26 oed), Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dan 40 a dros 40 oed), Gwobr Arloeswr Fferm, Gwobr Tyfu Cymru, Gwobr Coedwigaeth, Gwobr Ffermwyr y Dyfodol, Bwrsariaeth Amaethyddol CFfI Cymru mewn cydweithrediad â Gwobr Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru, Gwobr Goffa Brynle Williams, a Gwobr Cyfraniad Oes. Mae rhestr lawn o gategorïau a’r meini prawf ar gael ar wefan Lantra Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadauyw Awst 30ain. Bydd y beirniadu’n digwydd yn gynnar ym mis Medi gan banel o feirniaid arbenigol.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Lantra Cymru ac i gyflwyno’ch enwebiadau, ewch i https://www.wales.lantra.co.uk/land-based-learner-year-2019