GRWP RHWYDWEITHIO CCP

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod Rhwydweithio CCP yng Ngwesty’r Emlyn, ddydd Mercher, y 5ed o Ragfyr. Gyda nifer dda o fusnesau wedi troi mas unwaith eto, cafodd cynrychiolwyr brecwast hyfryd gyda digon o de a choffi a rôl bacwn tra’n cael cyfle i sgwrsio a chlywed mwy am fusnesau ei gilydd.

CPP Networking Cafwyd cyflwyniad pum munud gan John Evans o Workways +. Rhoddodd gipolwg diddorol iawn i ni ar waith y sefydliad sy’n cynnig cyfleoedd hyfforddi a phrofiad gwaith â thâl i bobl ddi-waith hirdymor i helpu i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Roedd clywed rhai o’r llwyddiannau yn wirioneddol ysbrydoledig, nid yn unig o safbwynt y di-waith a oedd wedi sicrhau gwaith ond hefyd o ran y  cyflogwyr wrth roi’r cyfleoedd i unigolion i gael bywyd gwell.

Sefydlwyd Rhwydwaith Busnes Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (CCP) gan Dave a Claire Thomas o Thomas Safety Services Cyf fel grŵp di-elw, a chynhelir cyfarfodydd ar DDYDD MERCHER CYNTAF bob mis. (Ac eithrio Ionawr 2019, a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 9 Ionawr 2019.) Y ffi mynediad yw £ 5 y pen am y lluniaeth,

Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu [email protected] neu Facebook  www.facebook.com/groups/CCPBusinessNetwork neu Twitter https://twitter.com/CCPBusinessNet

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction