Cyngor Sir Gar yn lansio nawdd ar gyfer digwyddiadau

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio rownd nesaf y cynllun ariannu ar gyfer digwyddiadau.
Mae’r cyllid ar gael i’r rheiny sydd ar hyn o bryd yn trefnu digwyddiadau neu sy’n dymuno gwneud hynny, a gallai gynnig hyd at £5,000 – sydd hyd at hanner cyfanswm y gost – lle bydd y digwyddiad yn cael effaith ar ddatblygiad economaidd Sir Gaerfyrddin.
Gall y cynllun gynnig cymorth gyda materion cyfathrebu hefyd.
Mae’r gronfa yn rhan o strategaeth cefnogi digwyddiadau’r Cyngor sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i helpu trefnwyr a rhoi hwb i ddigwyddiadau yn y sir.
Anogir digwyddiadau sy’n gwella amcanion strategol penodol megis strategaeth beicio’r sir, digwyddiadau tref a phentref diwylliant ac ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru, i wneud cais.
Y llynedd, cefnogodd y gronfa 16 o ddigwyddiadau ledled Sir Gaerfyrddin, gan gyfrannu oddeutu £1.17 miliwn at yr economi leol.
Matt Page o A Cycling, sy’n trefnu digwyddiad beicio blynyddol “Battle on the Beach” ym Mharc Gwledig Pen-bre, oedd un o’r buddiolwyr.
“Mae Battle on the Beach yn denu cystadleuwyr i Sir Gaerfyrddin o ledled y DU ac Iwerddon, yn ogystal â rhannau o Ewrop” meddai Matt.
“Roedd y gronfa wedi ein galluogi i gynnal gweithgareddau ychwanegol yn y digwyddiad i wella profiad yr ymwelwyr, yn ogystal â threfnu i dynnu lluniau proffesiynol gyda chamera drôn y gallwn eu defnyddio i hyrwyddo’r digwyddiad yn ehangach ac yn fwy proffesiynol yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau o ran cefnogi ein cymunedau a’n trefi, y cyfraniad y gallant ei wneud i’r economi lleol a’r modd y maent yn denu ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin.
“Mae’r gronfa hon ond un o’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi digwyddiadau yn ein sir sydd â’r mwyaf o botensial i gyflawni ein hamcanion.
“Rydym yn annog y rheini sydd â diddordeb ac sy’n bodloni’r meini prawf i wneud cais”.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction