Camwch i mewn i’r Cwmwl – yr ateb cywir ar gyfer eich busnes

Mae cyfrifiadura cwmwl yn addo hyblygrwydd, effeithlonrwydd ac arbedion costau.

Gall gynnig ystod o fanteision i fusnesau:

  • Rheoli dogfennau: mae modd cael mynediad at ddogfennau o bob math, dogfennau wedi eu rhannu, eu golygu ac wedi’u dosbarthu waeth beth yw maint y ffeil neu leoliad y defnyddiwr – hanfodol mewn byd symudol.

  • Cyllidau symlach: mae modd cael mynediad, diweddaru a rhannu data cyllidol gyda chyfrifwyr, ta waeth am y lleoliad neu’r amser.
  • Marchnata modern: gall eich gwefan elwa drwy ychwanegu cynnwys llawn nodweddion, aml-gyfrwng, wedi’i integreiddio’n llawn gyda strategaeth cyfryngau cymdeithasol a chyswllt cwsmeriaid aml-sianel.
  • Rheoli pobl: systemau adnoddau dynol canolog, storio gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel a mynediad awdurdodedig yn creu amgylchedd gweithio mwy hyblyg a diogel.
  • Cwsmeriaid bodlon: storio data cwsmeriaid yn ddiogel, rhyngweithio a thracio archebion mewn amser real, mynediad ar unwaith at statws yr archeb, a hyd yn oed pyrth sy’n galluogi cwsmeriaid i reoli eu trafodion, sy’n ychwanegu at y math o brofiad mae’r mwyafrif ohonom yn ei ddisgwyl yn yr hinsawdd ddigidol sydd ohoni heddiw.
  • Rheoli prosiectau’n well: gall band eang cyflym iawn gael effaith aruthrol ar gydweithrediad rhwng cydweithwyr unigol a gyda phartneriaid busnes sy’n gweithio ar brosiectau penodol, gan alluogi rhannu asedau’n fwy effeithlon, cyfathrebu amser real a mynediad cyffredinol at ddogfennaeth wedi’u diweddaru.
  • Cyfathrebu clyfrach: mae cyfathrebu unol yn cynnwys llais traddodiadol, sianelau symudol, fideo a data – mae gan bob un ohonynt eu manteision i weddu amgylchiadau gwahanol, ac arbed amser a chostau cyfarfodydd.

I gael gwybod rhagor ac i lawrlwytho canllaw am ddim at Gwmwl ewch i https://business.wales.gov.uk/superfastbusinesswales/cloud-computing

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction