Ym mis Hydref 2021 dechreuodd Caleb Murphy ar ei yrfa waith trwy ymuno â chynllun Kickstart y llywodraeth. Cafodd gynnig chwe mis o brofiad gwaith gyda chwmni Telemat TG ac erbyn hyn mae’r cyfle wedi troi’n swydd lawn amser fel Technegydd Dan Hyfforddiant.
Wedi ei leoli ym Mhencadlys Telemat yng Nghastellnewydd Emlyn, mae Caleb yn cyflawni dyletswyddau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau TG i fusnesau a’r prosiect di-wifr i drefi. Yn rhan o’i becyn cyflogaeth bydd Caleb hefyd yn astudio ar gyfer cymwysterau TG.
Kevin Harrington yw rheolwr Telemat a meddai “Mae brwdfrydedd Caleb â’i egni a’i awch am her wedi creu argraff arnom ni yn ogystal â’r ffaith ei fod e mor eiddgar i ddysgu.”