Caleb yn rhoi Kickstart i’w yrfa gyda Chwmni TG Telemat

Caleb yn rhoi Kickstart i’w yrfa gyda Chwmni TG Telemat

Ym mis Hydref 2021 dechreuodd Caleb Murphy ar ei yrfa waith trwy ymuno â chynllun Kickstart y llywodraeth. Cafodd gynnig chwe mis o brofiad gwaith gyda chwmni Telemat TG ac erbyn hyn mae’r cyfle wedi troi’n swydd lawn amser fel Technegydd Dan Hyfforddiant.

Wedi ei leoli ym Mhencadlys Telemat yng Nghastellnewydd Emlyn, mae Caleb yn cyflawni dyletswyddau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau TG i fusnesau a’r prosiect di-wifr i drefi.  Yn rhan o’i becyn cyflogaeth bydd Caleb hefyd yn astudio ar gyfer cymwysterau TG.

Kevin Harrington yw rheolwr Telemat a meddai “Mae brwdfrydedd Caleb â’i egni a’i awch am her wedi creu argraff arnom ni yn ogystal â’r ffaith ei fod e mor eiddgar i ddysgu.”

https://www.telemat.co.uk

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction