Bwrdd Antur Teifi yn cwrdd â sylfeinydd Zip World

Sean Taylor, cyd-sylfeinydd  a chyfarwyddwr Zip World, oedd y prif siaradwr mewn derbyniad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Ganolfan OpTIC yn Llanelwy i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed yn cefnogi busnesau. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau gwrdd â Thîm Rheoli llawn Antur Teifi a’i holl aelodau Bwrdd.

Sean Taylor, Bronwen Raine, Chris Hewitt
Sean Taylor, Bronwen Raine, Chris Hewitt

Roedd cyflwyniad Sean yn stori ysbrydoledig o’i ddyddiau fel aelod o’r Royal Marines cyn dychwelyd i’w gartref yng Ngogledd Cymru yn 2007. Gyda’r awydd amlwg am antur yn ei waed yn ogystal â’r weledigaeth o’r hyn y gallai gyflawni  i hybu economi’r ardal, agorodd y Tree Top Adventure ger Betws y Coed a’i ddilyn gan Zip World yn 2013.

Ers hynny, mae Sean wedi parhau i ddatblygu’r fenter gan roi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol bob amser wrth wraidd ei weithgareddau busnes. Mae Sean yn frwd dros weithio’n agos gyda chymunedau – angerdd sy’n seiliedig i raddau helaeth ar y parch sydd ganddo am ei staff, yn enwedig eu lefelau uchel o arbenigedd ac ymrwymiad.

Gobeithiwn y bydd Sean yn ymweld â ni yma cyn bo hir yng Nghastell Newydd Emlyn fel y gallwn hefyd rannu o’i brofiadau a chael ysbrydoliaeth o’i allu i arloesi a chyrraedd ymhellach ac yn uwch.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction