Castell Aberteifi oedd y lleoliad ar gyfer digwyddiad rhwydweithio busnes blynyddol Antur Teifi a gynhaliwyd ar Fedi’r 22ain. Roedd yn braf gweld llond ystafell o gynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau yn bresennol i gyd yn awyddus i ddarganfod mwy am wasanaethau cefnogi busnes Antur Teifi. Cafwyd anerchiad ysbrydoledig gan yr Athro John Landon MD, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil MicroPharm a chipolwg ar y gwaith sy’n cael ei wneud o’i bencadlys yng Nghastellnewydd Emlyn. Cynhyrchu gwrth-wenwyn ar gyfer trin brathiadau gan rai mathau arbennig o nadroedd yw arbenigedd y cwmni ac agorwyd cyfleuster newydd yng Nghilgerran yn ddiweddar. Mae’r ganolfan newydd yn rhan o raglen ehangu gwerth £2 filiwn ar gyfer cynnal ymchwil barhaus i driniaethau ar gyfer clefydau difrifol megis C.difficile ac Ebola.
Meddai Beverley Pold, Cadeirydd Antur Teifi: “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o stori MicroPharm. Yn y dyddiau cynnar hynny bu Antur Teifi yn cefnogi’r cwmni trwy ddarparu cyfleusterau gweithgynhyrchu ar gyfer eu gweithrediadau ym Mharc Busnes Aberarad. Mae’r ehangu diweddar yn sicr yn newyddion da i’r economi leol ac ar gyfer swyddi arbenigol yn yr ardal hon. Mae’n wych i weld busnes yn manteisio ar dalent a chymorth lleol sy’n ffynnu ar raddfa fyd-eang.”