Buddion gweithio trwy’r Cwmwl

Mae’r sector gwasanaethau busnes  yn cydnabod y buddion sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg Cwmwl, yn enwedig wrth i’r  hyblygrwydd cynyddol arwain at gynhyrchiant gwell sydd yn ei dro yn arwain at arbed amser a chost i gleientiaid.

Service industries see the benefits of moving to the Cloud

Mewn arolwg busnes diweddar a wnaed gan Antur Teifi, nodwyd band eang gwael ymysg un o’r pump prif rhwystr i dwf i fusnesau.

Cyn hir, diolch i Brosiect Cymru Cyflym BT a Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.  Mae 482,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru bellach â mynediad i fand eang cyflym iawn.

Mae Telemat TG yn credu y dylai cwmnïau feddwl o ddifrif am sut  y byddant yn manteisio ar y cynnydd sylweddol mewn cyflymder band eang a fydd ar gael iddynt yn y dyfodol agos.

Gall gysylltiad band eang cyflym a mwy dibynadwy cyflwyno llu o fanteision i’ch busnes, gan gynnwys arbed amser ac arian trwy

  • Cynyddu cynhyrchiant
  • Arbed arian
  • Cynyddu effeithlonrwydd
  • Cael gwared ar ffiniau
  • Cynyddu a chadw teyrngarwch
  • Cynyddu elw
  • Sicrhau’r gwasanaeth diweddara
  • Gwell gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Diogelu eich asedau
  • Helpu’r amgylchedd

Mae un peth yn sicr – bydd cystadleuwyr yn defnyddio grym band eang cyflym i ddadansoddi data o’r farchnad ac yn defnyddio’r wybodaeth i ddatblygu ffyrdd newydd o wasanaethu cwsmeriaid a gwerthu iddynt. Mae angen i fusnesau fod yn effro i’r posibiliadau er mwyn sicrhau eu bod yn ennill, yn hytrach na cholli tir.

Un cwmni sydd wedi gweld manteision y symudiad hwn trwy weithio law-yn llaw á Telemat yw Wynne and Co. – cwmni cyfrifwyr yng Nghaerfyrddin .  Mae’r cyfarwyddwr Sarah Wynne wedi gallu trosglwyddo’r arbedion ariannol – a ddeilliodd o gynyddu effeithlonrwydd –  i gleientiaid.

I gael rhagor o fanylion am y ffordd y mae cwmnïau eraill wedi elwa o’r gwasanaeth hwn yn ogystal â holl wasanaethau eraill TG eraill,  ewch i wefan Telemat.

Ar ran Busnes Cymru, mae Antur Teifi yn trefnu cyfres o weithdai wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth i fusnesau ar sut i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw o’r technolegau diweddaraf.  Bydd yna gyfle hefyd i gael cyngor arbenigol ar sut i fwrw ymlaen â’ch cynlluniau.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction