Mae brand cryf yn hanfodol ar gyfer busnesau sy’n cystadlu i sicrhau eu presenoldeb yn y farchnad ac adeiladu teyrngarwch. Ac nid yw’n golygu logo neu strapline bachog yn unig! Addewid yw brand. Addewid i’r cwsmer o hygrededd y cynnyrch.
Mae Calon Wen yn un o frandiau mwyaf blaenllaw y diwydiant llaeth organig yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn y flwyddyn 2000 yn Arberth mae’n gwmni cydweithredol gydag aelodau yn ffermio ar draws gogledd a de-orllewin Cymru. Mae brand Calon Wen yn seiliedig ar ei fuddsoddiad yn yr ethos o ffermio’n organig.
Drwy’r cenedlaethau mae ffermio bob amser wedi cael ei ddisgrifio fel “ffordd o fyw”. Tirfeddianwyr yn gweithredu fel stiwardiaid yr amgylchedd ar ran cenedlaethau’r dyfodol. Mae ffermio organig heddiw yn nodweddiadol o benderfyniad gwirioneddol y ffermwyr i ddiogelu’r gwerthoedd hynny a diogelu’r ffordd o fyw.
Yn gweithio ar ran Calon Wen, mae strategaeth farchnata Canta wedi ei seilio ar yr hyder sydd gan y ffermwyr yn eu cynnyrch drwy eu prosesau ffermio sydd- yn y bôn – yn golygu cadw pethau’n syml. Mae’r gwartheg yn pori ar borfeydd meillion organig cyfoethog heb eu chwistrellu â chemegau a thrwy hynny’n apelio at y defnyddwyr hynny sydd â diddordeb cynyddol mewn iechyd a bwyta’n iach, yn ogystal â’r rhai hynny sydd yn poeni am faterion amgylcheddol.
Un sydd wedi cadw’r ffydd gyda photensial y farchnad organig yw Dai Miles, Rheolwr Gyfarwyddwr Calon Wen. Meddai Dai, “Fel busnes ry’ ni wedi profi’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yr un fath â phawb arall. Ond mae ein hymrwymiad i gynhyrchu llaeth organig o’r ansawdd uchaf ar gyfer defnyddwyr yn dal i fod yr un peth heddiw ag erioed”.
Gyda’r farchnad organig yn ennill tir, mae Dai Miles yn bositif am y dyfodol. “Mae ein hymchwil i’r farchnad yn dangos i ni fod dilysrwydd yn bwysig i ddefnyddwyr. Gyda Calon Wen, oherwydd ein bod yn gweithio’n agos gyda’n ffermwyr, mae defnyddwyr yn prynu ein cynnyrch gan wybod yn union o ble mae’r llaeth yn dod. Efallai nad yw strapline bachog yn beth drwg wedi’r cyfan.