Bŵtcamp am Fusnes

Bootcamp to Business Yn ddiweddar, cymerodd y grŵp hwn o 25 o entrepreneuriaid ifanc, o bob rhan o Gymru ran mewn Bŵtcamp tridiau a gynlluniwyd i drosglwyddo’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i wireddu eu syniadau busnes. Cynhaliwyd yng Nghanolfan yr Urdd yn Glan-llyn dros benwythnos 20-22 Ebrill.

Bu’r 25 o bobol ifanc rhwng 18-25 oed yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai busnes a oedd yn cwmpasu pynciau megis ariannu-ar-y-cyd, ymchwil i’r farchnad a brandio.

Mae’r Bŵtcamp yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr gweithgareddau Syniadau Mawr Cymru ar gyfer pobl ifanc wrth ehangu eu gwybodaeth fusnes a chefnogi eu dyheadau i lansio eu busnes eu hunain.

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop mae’n helpu pobl ifanc rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniadau busnes a thalent entrepreneuraidd.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/gwybodaeth-am-syniadau-mawr-cymru neu e-bostiwch David – [email protected]

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction