AT @ 35

Mae pen-blwyddi pwysig yn gyfle ardderchog i ddathlu. Mae Antur Teifi yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 35 oed yn 2014, ac mae felly’n gwneud synnwyr I ni fyfyrio’n ogystal â dathlu yn ystod y flwyddyn. Chwaraeodd Gwynfryn Evans, un o gyn-swyddogion y Bwrdd Marchnata Llaeth a Dairy Crest, ran allweddol yn y cyfnod o ffurfio Antur Teifi. Ar ôl bod yn aelod o’r bwrdd am ugain mlynedd bron, mae’n falch iawn o’i gysylltiad ag Antur Teifi.

“Roedd arian Ewropeaidd yn hollbwysig yn ystod y blynyddoedd cynnar,” medd Gwynfryn. “Rhan o’r rheswm dros sefydlu Antur oedd sicrhau bod ardaloedd megis Castellnewydd Emlyn a Llandysul yn cael eu cyfran nhw o gyllid Ewropeaidd. Ein nod oedd sicrhau bod symiau mawr o arian yn cyrraedd cymunedau gwledig y gorllewin a oedd yn gymunedau Cymraeg eu hiaith yn bennaf. Roeddem ni am leihau nifer y bobl ifanc a oedd yn symud allan o’r ardaloedd hyn, drwy roi cyfle iddynt eu helpu eu hunain,” esbonia.

Gwynfryn Evans
Gwynfryn Evans

Prif ffocws y gwaith cynnar oedd sefydlu busnesau o’r gwaelod i fyny a sefydlu diwydiannau cartref. Medd Gwynfryn, “Roedd gennym ddull arloesol o weithredu. Roedd yn rhaid i ni fod yn arloesol er mwyn bodloni’r meini prawf ar gyfer cael cyllid.” Mae Gwynfryn yn rhestru gyda balchder mawr enghreifftiau o’r busnesau yr helpodd Antur Teifi i’w sefydlu. Ymhlith yr enwau mawr y mae Golwg (y cwmni newyddiadura a chyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg) a sefydlwyd yn 1988 a’n cwmni ni ein hunain, Telemat (a sefydlwyd yn 1996), sy’n dal i fasnachu bron ugain mlynedd yn ddiweddarach.

“Mae Telemat yn enghraifft wych o’r modd yr oedd y prosiectau hynny’n gweithio orau,” medd Gwynfryn. “Roedd y rhan fwyaf o’r cyllid yn cael ei ddarparu am gyfnod penodol – tair blynedd, fel rheol. Roedd hynny’n golygu – fel yn achos Telemat – ein bod yn gwybod bod gennym o leiaf y cyfnod hwnnw i helpu pobl ifanc leol i feithrin gwybodaeth a phrofiad perthnasol yn eu maes. Mater iddyn nhw oedd gwneud eu gorau glas wedyn a sicrhau bod eu busnesau’n gynaliadwy.”

Fodd bynnag, doedd dibynnu ar gyllid Ewropeaidd ddim yn fêl i gyd. “Nid oedd ffocws y rhaglenni cyllid bob amser yn cyd-fynd ag amcanion craidd Antur Teifi, na hyd yn oed anghenion penodol busnesau,” medd Gwynfryn. “Ond roeddem fel rheol yn dod o hyd i ffordd o gefnogi busnesau yn yr ardal drwy greu partneriaethau cydfenter i sbarduno datblygiad economaidd.”

Yn yr hinsawdd economaidd ansicr sydd ohoni, nid yw gallu ac ymrwymiad Antur Teifi i greu cysylltiadau er budd y gymuned wedi newid. O ganlyniad, mae wedi parhau I ehangu ei ystod o weithgareddau ac mae wedi ymgymryd yn llwyddiannus â mentrau Llywodraeth Cymru – y mae pob un ohonynt wedi cyfrannu at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol y rhanbarth.

Bev Pold
Bev Pold

Fel Gwynfryn, mae ‘arloesol’ yn air y mae’r Is-gadeirydd presennol, Bev Pold, yn ei gysylltu â blynyddoedd cynnar Antur. “Bues i ar gwrs o’r enw “Menywod mewn Technoleg Newydd” yn 1984, a oedd wedi’i lunio gan Antur Teifi a Choleg Prifysgol Dewi Sant, fel y’i gelwid ar y pryd, yn Llanbedr Pont Steffan. Bwriad y cwrs oedd meithrin sgiliau busnes a TG ymhlith menywod yn benodol – y cwrs cyntaf o’I fath yng Nghymru – ac rwyf wedi bod yn ymwneud ag Antur Teifi byth ers hynny.”

Roedd Tast y Teifi yn un o ganlyniadau nodedig eraill dull o feddwl a oedd yn llawn gweledigaeth. “Antur Teifi oedd un o’r sefydliadau cyntaf i gydnabod manteision hyrwyddo bwyd o Gymru er mwyn sicrhau cyfran fwy o’r farchnad ar gyfer cynnyrch lleol,” ychwanegodd. Mae Bev yn cydnabod y bydd heriau i’w goresgyn eto wrth i Antur Teifi gamu i’r dyfodol.

“Mae gan Antur Teifi enw da am ddarparu cymorth busnes gan y sector cyhoeddus/Llywodraeth Cymru drwy ei seilwaith cadarn,” meddai. “Ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth drylwyr ynglŷn â’r sector busnesau bach a chanolig eu maint a hunaniaeth Gymreig a’i ddull cynhwysol o weithredu yw’r cryfderau sydd wedi galluogi Antur i ymateb i anghenion busnesau ar hyd y blynyddoedd,” ychwanegodd.

Dangosodd canfyddiadau arolwg a gomisiynwyd yn ddiweddar gan fwrdd a staff Antur Teifi y dylai’r gwerthoedd craidd sydd wedi bod wrth wraidd Antur Teifi yn y gorffennol lywio’r cyfeiriad y bydd yn ei ddilyn yn y dyfodol. Mae Bev yn obeithiol y gall gweithio mewn partneriaeth a chefnogi’r gwaith a wneir gan Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi fod yn llwyfan ar gyfer ailsefydlu’r amcanion craidd hynny.

“Mae angen i ni wneud yn fawr o’r sgiliau technegol a ddatblygwyd dros y 35 mlynedd diwethaf a defnyddio rhywfaint o’r hyn sydd gan y sefydliad wrth gefn i gynllunio a gweithredu rhaglenni sy’n arloesol ac a all gyfrannu at dwf a swyddi yn Nyffryn Teifi,” meddai. Ceir tystiolaeth bod yr economi’n magu momentwm. Y newyddion calonogol o arolwg Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a gyhoeddwyd ddiwedd 2013, oedd bod dros hanner busnesau’n disgwyl creu swyddi yn 2014.

Disgwylir y bydd prosiectau adeiladu mawr ym maes ffyrdd ac ynni morol yn benodol yn rhoi hwb economaidd pellach i dde Cymru a bydd cyfleoedd posibl i fusnesau yn y canolbarth a’r gorllewin fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi. Mae’n debyg hefyd y bydd economi’r DU yn un o’r economïau a fydd yn tyfu gyflymaf yn y byd. Gallai’r cyfan roi hwb enfawr i fyd busnes yng Nghymru.

Mae Antur Teifi yn parhau i arallgyfeirio wrth i’r sefydliad gyflwyno gwasanaethau ac ennill contractau i helpu busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Yr un yw’r nod o hyd – helpu busnesau i ddatblygu a thyfu. Y nod hwnnw fu’r flaenoriaeth yn ystod y 35 mlynedd diwethaf. Y nod hwnnw fydd y flaenoriaeth yn ystod y 35 mlynedd nesaf hefyd.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction