Mae adroddiad gan Business News Wales am nifer yr ymwelwyr i’r stryd fawr yng Nghymru, (gweler y ddolen) yn dangos twf yn ystod mis Chwefror, a hynny’n groes i’r duedd yng ngweddill y DU.
Un rheswm am hyn yn ôl dansoddwyr manwerthu Springboard, yw bod canol trefi yn canolbwyntio ar gynnig profiadau hamdden a bwyta i ddenu pobl drwy ategu at y cynnig sydd gan y trefi o ran siopa.
Mae ein gwaith ni wrth ymchwilio ac adrodd ar ragolygon y stryd fawr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn cefnogi hyn. Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Llanbedr Pont Steffan yn 2014 fe waneth yr arbenigwr manwerthu Bill Grimsey awgrymu bodangen i fusnesau mewn trefi i edrych ar y cyd ar sefyllfa eu trefi a gwella eu cynnig trwy roi rheswm i bobol ymweld â’r trefi – i wneud canol trefi yn gyrchfannau o ddewis.
Buom yn cyd-weithio â Chanolfan Siopa Rhodfa Santes Catrin yng Nghaerfyrddin yn paratoi arddangosfa ffotograffiaeth i ddathlu arwyr rygbi lleol, digwyddiad a arweiniodd at gynnydd cyflym mewn byr o amser ym nifer yr ymwelwyr i’r dref.
Mae ein gwaith diweddaraf ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, yn edrych ar y posibilrwydd o fenter siopau pop-up yn nhrefi gwledig Sir Gâr, hefyd wedi tanlinellu’r angen i ganolbwyntio ar gydweithredu eu hymdrechion a’u gweithgareddau er mwyn rhoi rheswm i bobl ymweld ac ymgysylltu â’u trefi unwaith yn rhagor.
Trwy waith caled parhaus y bydd y twf a welwyd ym mis Chwefror yn nifer yr ymwelwyr ar draws y stryd fawr yn dod yn dwf gwirioneddol gynaliadwy.
Bydd ein tîm Byd Busnes Byw yma yn Antur Teifi yn hapus i gael sgwrs â chi am ein profiadau o weithio gyda chanol trefi.