Antur Teifi’n Cefnogi Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol

Stacy a Rhys

 

I Stacie Hopley, 16 oed o Rhydargaeau a Rhys Jones, 20 oed o Drefach, Llanybydder, roedd y syniad o barhâu a’u haddysg tra’n ennill cyflog yn un deniadol iawn. Felly, pan hysbysebwyd y cyfle i gyflogi dau brentis ddigidol trwy Antur Teifi, fe wnaethon nhw neidio ar y cyfle i gymryd rhan.

Y rôl oedd cefnogi menter beilot Wi-FI trefi ar draws nifer o safleoedd yn Sir Gâr – prosiect sydd wedi derbyn cyllid trwy Gronfa Gymundau Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Rhys a Stacey yn enghreifftiau o’r duedd gynyddol ymhlith pobl ifanc sy’n dewis cyrsiau galwedigaethol fel llwybr i gyflogaeth ac addysg uwch. Mae hyn y cael ei adlewyrchu yn y cynnydd o 32% mewn rhaglenni prentisiaethau dros y 2 flynedd ddiwethaf.

I lawer o bobl ifanc, mae pwyso a mesur manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau sydd ar gael iddynt yn gallu bod yn anodd.

Penderfynodd Stacie bod prentisiaeth yn opsiwn gwell iddi hi nag addysg amser llawn.

“Roeddwn i eisiau parhau i ddysgu ar ôl gorffen fy TGAU ac roedd gwneud hyn yn fwy deniadol i fi na mynd i goleg chweched dosbarth.”

Roedd Rhys eisoes mewn cyflogaeth pan gododd y cyfle gydag Antur Teifi

“I fi, roedd fy oedran yn ffactor yn fy mhenderfyniad i fynd am brentisiaeth. Roedd cael profiad gwaith go iawn tra’n ennill cymhwyster yn bwysig i fi yn enwedig ym maes TG.”

Kevin Harrington yw Rheolwr Datblygu Busnes Antur Teifi,

“Mae cefnogi ein cymuned yn rhan allweddol o ethos cymdeithasol Antur Teifi, ac wedi bod wrth wraidd yr hyn ry’ ni’n wedi gweithio i’w gyflawni dros y 40 mlynedd diwethaf. Bu ehangu cyfleoedd prentisiaeth yn fuddiol i ni, oherwydd wrth roi cyfle i Stacie a Rhys ennill gwybodaeth a phrofiad yn y gwaith maent yn dod â brwdfrydedd, egni a sgiliau ieuenctid i’r tîm.”

Mae gweithio ar y cyd â Choleg Sir Gâr yn golygu bod y ddau brentis yn ennill cymhwyster Diploma NVQ Lefel 3 mewn TG law-yn-llaw ag ennill profiad yn y gweithle.

I Stacie a Rhys mae’r sgiliau maent wedi datblygu mewn ychydig fisoedd yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa wedi bod o fudd Meddai Rhys,

“Mae bod yn rhan o dîm yma yn Telemat wedi cryfhau fy sgiliau cyfathrebu a sgiliau rheoli amser ac y mae’r prosiectau ‘dwi wedi cael y cyfle i weithio arnyn’nhw hyd yn hyn wedi bod yn wych “.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction