Menter Antur Cymru i gymeryd rhan mewn weminar ar Trefi Smart

Antur Cymru Enterprise to feature in SMART Towns webinar

Bydd Menter Antur Cymru yn partneru gyda Llywodraeth Cymru a Menter Môn i ddarlledu gweminar ar thema cynlluniau Di-Wifr Trefi, Dydd Iau, 1af Hydref 2020, rhwng 2.30 a 3.30yp.

Bydd y digwyddiad o’r enw ‘Adennill o Covid-19: Trefi SMART’, yn cynnwys cymysgedd o arbenigwyr busnes TG a rhagair gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a sylwadau cloi gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Gwahoddwyd Menter Antur Cymru i ymuno i rannu’r arbenigedd â’r profiad y maent wedi’u hennill fel prif gyflenwr Di-Wifr Tref yng Nghymru.  Mae’r busnes wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer mwy na 26 o drefi ledled y rhanbarth gan gynnwys Caerfyrddin a Chaernarfon.  Bydd Aled Davies o Telemat, rhan o bortffolio Menter Antur Cymru yn siarad am ‘Edrych ar y rhwystrau i weithredu’.

Bydd Aled yn awyddus i amlinellu nad yw cynlluniau Di-Wifr Trefi yn ymwneud â gosod y system yn unig, ond sicrhau bod y system yn  gweithio i’r economi ac hefyd adfywio trefi yn ystod COVID-19. Mae gan dîm Telemat brofiad o weithio gyda threfi i sicrhau buddion y systemau trwy ddangos iddynt sut i ddefnyddio’r data o’r system Di-Wifr.

Ymhlith y cynlluniau y mae Telemat wedi’u cyflwyno yw defnyddio data ar gyfer olrhain symudiadau ymwelwyr o amgylch trefi ac annog ymweliadau yn ôl trwy farchnata trwy’r cyfryngau cymdeithasol.  Mae’r mentrau marchnata yn cynnwys tynnu sylw at ddigwyddiadau allweddol, diwrnodau siopa allweddol ynghyd â busnesau yn y trefi sy’n cynnig hyrwyddiadau penodol.

Bydd yr agenda hefyd yn cynnwys y Cynghorydd Clive Davies a weithiodd gyda Telemat i osod cynllun Di-Wifr yn tref Aberteifi, ynghyd â Menter Môn a fydd yn cyflwyno menter newydd i’r ‘Patrwm Platform.’

Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb a gellir ei weld ar-lein trwy Zoom trwy gofrestru trwy Eventbrite.

www.anturcymru.org.uk

01239 710 238

[email protected]

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction