Antur Cymru yn lansio Adran IoT

Antur Cymru Enterprise
Antur Cymru Enterprise IoT Department

Mae Menter Antur Cymru wedi penodi arbenigwr Trefi Clyfar i arwain adran newydd ar gyfer Datblygu Digidol.  Mi fydd Clive Davies yn archwilio’r cyfleoedd i drefi a busnesau yn sgil mabwysiadu technoleg IoT. Mae Clive eisoes yn aelod sefydlog o Fenter Antur Cymru a thîm Cymorth TG Telemat, ac yn dod â chyfoeth o brofiad fel arloeswr methodolegau Trefi Clyfar.

Yn ogystal â gweithio gyda threfi i osod a chynnal technolegau megis LoRaWAN – system gost isel sy’n hwyluso ystod eang o gymwysiadau monitro – mi fydd Antur Cymru hefyd yn gweithio gyda busnesau i archwilio cymwysiadau eraill ar gyfer manteisio ar y dechnoleg sy’n dod i’r amlwg.

Yn rhan o’r rôl, mae Antur Cymru wedi cytuno ar secondiad rhan-amser i Clive i gyfrannu at fenter ‘Blwyddyn Trefi SMART’ Llywodraeth Cymru, trwy helpu i gefnogi trefi i ddeall a chyrchu buddion strategaethau adfywio yn seiliedig ar ddata.

Mae Clive yn adnabyddus am y gwaith y mae wedi’i gyflawni wrth ddatblygu a hyrwyddo datrysiadau casglu data Trefi Di-Wifr ac yn credu bod LoRaWAN yn cynnig cyfle ychwanegol i weithio ochr yn ochr â’r dechnoleg hon yn ogystal â gweithredu fel datrysiad ynddo’i hun.

Meddai Clive Davies

“Mae’n amser gwych i sefydlu’r adran newydd hon ar adeg pan mae datrysiadau’n cael eu datblygu nid yn unig i olrhain patrymau nifer y bobl sydd yn ymweld â threfi ond hefyd rhai sydd yn mesur ansawdd aer, lefelau golau, symudiadau, tymheredd, a nifer o gymwysiadau eraill sy’n cyfrannu at wella ansawdd bywyd a pherfformiad busnes. Mae’r drafodaeth gynyddol parthed rôl Trefi Di-Wifr wrth fynd i’r afael ag eithrio digidol yn golygu bod y technolegau hyn gyda’i gilydd yn cyflwyno atebion i nifer o’r problemau sy’n wynebu cymunedau.”

Yn ei rôl newydd, bydd Clive yn gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw i adnabod ffyrdd o fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu canol ein trefi a hefyd archwilio cymwysiadau ehangach ar gyfer sectorau megis ffermio, gweithgynhyrchu, twristiaeth a gofal.

Un o’r pethau mwyaf cyffrous am IoT yw ei fod yn cynnig cymwysiadau diderfyn yr un mor amrywiol â’r problemau y mae’n ceisio mynd i’r afael â nhw. Er bod Antur Cymru wedi canolbwyntio ar gasglu data canol trefi bydd hi’n bosib nawr  i ddefnyddio IoT i greu medrau ychwanegol ar gyfer defnydd ehangach.

Bronwen Raine, Prif  Weithredwr Antur Cymru,

“Mae penodiad Clive yn allweddol i ymgyrch Antur Cymru i sicrhau bod y byd busnes a chymunedau ar draws Cymru yn elwa o dechnoleg sy’n dod i’r amlwg a mynd i’r afael ag effeithiau economaidd Covid, boed hynny ar lefel busnes neu gymuned.

Rhan bwysig iawn o’r gwaith yw ein cenhadaeth i godi ymwybyddiaeth o rôl LoRaWan wrth yrru adferiad cynaliadwy a hefyd cynhyrchu twf economaidd hir-dymor. Rydym wedi gweithio gyda nifer o gynghorau tref a sir wrth ddarparu rhaglenni casglu data ac rydym yn hynod o gyffrous wrth rannu’r hyn rydym wedi dysgu o’r profiad hwn tra’n archwilio’r cyfleoedd i gyflwyno datrysiadau i gynulleidfa fusnes ehangach”

www.anturcymru.org.uk

Am fwy o wybodaeth a lluniau:

Dai Nicholas, Rheolwr Marchnata, Antur Cymru Enterprise, 07736542280

[email protected]

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction