Mae Menter Antur Cymru yn cynnig cyngor ar farchnata yn ystod ac ar ôl cyfnod Covid 19.

Yma rydym yn archwilio 6 maes allweddol i chi eu hadolygu ac i ail-danio eich gweithgareddau marchnata yn ogystal a chynnig y cyfle i chi ail-ffocysu eich gweithgaredd.

Mae argyfwng Covid-19 wedi newid y ffordd y mae defnyddwyr a busnesau yn gweithredu ac rydym bellach yn cael ein hunain mewn cyfnod o ‘normal newydd’. Mae’r angen i ganolbwyntio ar farchnata yn bwysicach nag erioed.

  1. Mae eich busnes dal ar agor felly gwedwch wrth bawb!

Mae rhoi tawelwch meddwl i’ch cwsmeriaid ei bod hi dal yn bosib iddynt brynu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau, a hynny heb unrhyw newid yn yr ansawdd oherwydd y pandemig, yn fan cychwyn allweddol.

  • Sicrhewch fod eich cyfathrebiadau mewn gêr ac yn barod i fynd a rhannwch negeseuon cysurlon sy’n tawelu’r meddwl.
  • Anfonwch ddiweddariadau e-bost a dechreuwch ystyried sut rydych chi’n cyfathrebu â’ch cwsmeriaid.
  • Cadwch eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn gyfredol a phostiwch yn rheolaidd.
  • Wrth anfon anfonebau, datganiadau o gyfrifon a chyfathrebiadau eraill cofiwch gynnwys diweddariadau, ffurflenni adborth a chynigion.
  1. Adolygwch eich negeseuon marchnata.

 Nid oes amser gwell i adolygu’r neges am eich brand a’r cynnwys sydd ar eich sianeli cyfathrebu marchnata.

  • Adnabyddwch y bylchau a gwnewch y mwyaf o’ch negeseuon a’ch cyfathrebiadau mewn mannau lle gall cwsmeriaid cyfredol a darpar gwsmeriaid ddod o hyd i chi.
  • Dysgwch o’r hyn sydd wedi llwyddo yn y gorffennol. Nawr yw’r amser i roi mesurau Enillion ar Fuddsoddiad mewn lle.
  • Meddyliwch am yr hyn a allai weithio yn ystod ac ar ôl Covid. Siaradwch â’ch cwsmeriaid cyfredol ac ymchwiliwch i farchnadoedd newydd
  • Byddwch yn ymwybodol o’r hyn mae eich cystadleuwyr yn eu gwneud gan sicrhau eich safle yn y farchnad. Sicrhewch gyfleoedd i oroesi a thyfu yn y dyfodol.
  • Nid nawr yw’r amser i gadw at y status quo. Gwnewch rywbeth yn wahanol i’ch cystadleuwyr a gwnewch yn siwr mai chi yw’r busnes sy’n cynnig yr atebion yn y ‘normal newydd’.
  • Gofynnwch i’ch cwsmeriaid a’ch tîm beth sy’n gwneud eich busnes chi yn wahanol i’ch cystadleuwyr. Rhannwch y neges. Eich Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) yw eich prif bennawd.
  • Peidiwch rannu ‘hen newyddion’ a chael eich gweld yn gwerthu o hyd ac o hyd. Gofynnwch farn ar eich cynnyrch a gwasanaethau a phethau eraill sydd o bwys i’ch cwsmeriaid.
  • Gwedwch wrth eich cwsmeriaid am eich cymwysterau busnes meddalach fel polisïau busnes cynaliadwy.
  1. Adolygwch eich platfformau marchnata ar-lein.

Ni fu erioed amser gwell i adolygu eich presenoldeb ar-lein.

  • Adolygwch destun a geiriau allweddol eich gwefan a gwnewch iddynt weithio’n galetach ar y llwyfannau chwilota.
  • Defnyddiwch eich geiriau allweddol i adolygu sut i gael y gorau o’ch llwyfannau chwilota a sut mae dod o hyd i chi ar-lein.
  • Adolygwch y ffordd mae eich gwefan yn gweithio ar lwyfannau symudol. Mae ymchwil diweddar yn dangos bod 58% o ymweliadau â gwefannau yn 2019 wedi digwydd ar ddyfeisiau symudol
  • Crëwch gynnwys gwerthfawr a gafaelgar megis gweminarau, vlogs, asudiaethau achos, negeseuon gan westeion, cynnwys feiral a ‘canllawiau sut-i’.
  1. Daliwch ati i harneisio pŵer y Cyfryngau Cymdeithasol.

 Ymgorfforwch y Cyfryngau Cymdeithasol yn rhan o’ch cymysgedd marchnata fel ffordd gost-effeithiol i drosglwyddo’ch negeseuon unigryw i gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid a hynny mewn modd amserol a chyflym.

Dyma rai camau i’w harchwilio:

  • Crëwch gynnwys gafaelgar am eich cynnyrch.
  • Ystyriwch dalu i roi hwb i’ch cynnyrch (paid boosts) a hysbysebion wedi eu noddi.
  • Postiwch gynnwys diddorol yn rheolaidd.
  • Ystyriwch ffyrdd o gael adborth megis cystadlaethau ar-lein.
  • Ystyriwch gynigion arbennig, cynnig rhagflas o’ch cynnyrch neu fuddion o werth ychwanegol eraill.
  1. Byddwch yn fwy creadigol gyda’ch cynigion a’ch cyfathrebu o’i gymharu â’ch cystadleuwyr.
  • Trafodwch syniadau gyda’ch tîm, Bydd ganddynt syniadau da felly rhowch gyfle iddynt i ymbweru wrth gyfrannu.
  • Buddsoddwch amser ac arian ar gyfer defnyddio delweddau a fideos gafaelgar sy’n tynnu sylw.
  • Ymgysylltwch â’ch cwsmeriaid trwy ddefnyddio llwyfannau rhithwir megis cynnal cyfarfodydd ar Microsoft Teams a Zoom.
  • E-bostiwch arolwg neu godwch y ffôn a gofynnwch pam maen nhw’n prynu eich cynnyrch/gwasanaeth chi.
  • Defnyddiwch adborth yn gyson i fireinio eich cynnig a’ch negeseuon.
  1. Fe allwch fod yn siŵr bydd y berthynas rithwir yn disodli’r berthynas wyneb-yn-wyneb mewn sawl achos.

Adolygwch eich systemau TG a gwnewch yn siwr bod gennych y systemau cywir mewn lle. Dyma rai pethau i’w hystyried:

  • Adolygwch eich datrysiadau gweithio-o-bell a sicrhewch bod gan eich staff yr hyn sydd ei angen i yrru gwerthiannau a marchnata rhithwir i barhau â thwf busnes.
  • Sicrhewch bod eich cysylltiad Di-Wifr yn iawn a defnyddiwch yr adnodd i gasglu data am gwsmeriaid ac arferion prynu. Mireiniwch eich cynnig a’ch cyfathrebiadau marchnata yn rheolaidd.
  • Gwnewch yn siwr bod y tîm rhithwir cywir â’r gallu i werthu ar gael ar lwyfannau megis Microsoft Teams, Zoom a Skype.
  • Sicrhewch eich bod yn ymgyfarwyddo â’r cyfleoedd y mae systemau TG fel Microsoft Office 365 yn eu cynnig er mwyn symleiddio’ch gweithgareddau marchnata ac ennill cyfleoedd busnes rhithwir.
  • Adolygwch yr hyn sydd gan feddalwedd megis Mailchimp, Eventbrite a meddalwedd marchnata eraill eu cynnig a sut y gallant wneud eich cyfathrebiadau yn haws, yn gyson ac yn fesuradwy.

Nodyn i orffen:

Pan fyddwch wedi adolygu, gwrando ac ail-ffocysu – gwaeddwch o’r entrychion!  

A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata a’ch cyfathrebu er mwyn mireinio neu ailddyfeisio eich platfformau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein?

Am wybodaeth bellach dilynwch y ddolen isod:

https://anturcymru.org.uk/consultancy-services/

Neu fe allwch ddarganfod mwy am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer busnesau trwy gael sgwrs â Dai Nicholas, ein Rheolwr Marchnata ar  07736542280

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction