Mae’r wefan newydd yn cynnwys ardaloedd byw drychol, a dim ond tair clic o’r ymholiad a fydd yn eich arwain at bortffolio busnes cyfan Menter Antur Cymru.
Nid ffenestr siop yn unig yw www.anturcymru.org.uk ond mae’n arddangos portffolio sylweddol o’r darpariaeth cytundebau gwasanaethau busnes dwyieithog ledled Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn borth ddrychol i ymgysylltu’n ddwyieithog a gwasanaethau cynghori ac ymgynghori. Mae’r porth gwe yn cynnig cyfle i ddysgu, dadlau a dweud eu dweud ar y materion busnes blaengar sy’n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae gan y wefan newydd, gwyriad pendant o’r wefan flaenorol gyda ffotograffiaeth panoramig a lluniau perchennog busnes agos-atoch sy’n portreadu ôl troed Antur Cymru ar draws Cymru.
Mae’r delweddau’n dangos tystiolaeth bellach o’i amrywiaeth wrth ddelio ag ystod eang o gleientiaid o bob sector, rhyw ac ethnigrwydd. Roedd y tîm dylunio mewnol yn canolbwyntio ar wneud y swm helaeth o wybodaeth yn hawdd ei llywio gyda ffurflenni ymholi ar gyfer pob gwasanaeth dim ond 3 chlic i ffwrdd.
Mae Bronwen Raine RG, yn esbonio’r cyfeiriad a gymerwyd:
Rydyn ni wedi osgoi esboniadau geiriog yn bwrpasol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig trwy ddefnyddio astudiaethau achos ym mhob pwynt fel tystiolaeth o ‘beth rydyn ni wedi’i neud’ a ‘beth allwn ni ei wneud.’ Credwn fod hyn yn dangos yn ddiamwys ein profiad helaeth o ddarparu gwasanaethau busnes am dros 40 mlynedd.
Mae’n dystiolaeth o’n cryfder a’n dyfnder yn ein tîmau cynghori, ymgynghori ac arbenigedd profiadol wrth gynnig atebion busnes o ansawdd uchel i’n cleientiaid busnes.
Mae’r wefan wedi cysylltu ei chyfryngau cymdeithasol a’i phresenoldeb ar-lein ymhellach mewn strategaeth farchnata integredig gyda gwybodaeth byw drwy weminarau misol ar faterion busnes cyfredol, ac mae Twitter yn bwydo ar y straeon a’r newyddion diweddaraf o fyd busnes Cymru.
Gweler: www.anturcymru.org.uk