Mae Telemat TG, sydd wedi ei leoli yn Mharc Busnes Antur Teifi, Castell Newydd Emlyn, wedi ennill cytundebau i osod technoleg y Rhyngrwyd Pethau a LoRaWAN i gefnogi dyheadau awdurdodau lleol i gyflwyno rhwydwaith o ‘Drefi Clyfar’ a’u ffocws ar dwf economaidd.
Bydd cymwysiadau y Rhyngrwyd Pethau yn cael eu datblygu yn y 10 tref farchnad wledig yn Sir Gaerfyrddin a bydd Di-Wifr i Drefi yn cael ei osod yn Aberhonddu, Llanwrtyd, Llanandras, Aberaeron, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan, Cei Newydd a Thregaron.
Kevin Harrington yw’r Rheolwr Datblygu Busnes “Mae Telemat yn falch iawn i gefnogi’r gwaith o osod a hybu’r defnydd o’r Rhyngrwyd y Pethau a Di-Wifr i Drefi.
Mi fydd datblygu technolegau Trefi Clyfar yn helpu awdurdodau lleol a chynghorau tref i gasglu gwybodaeth bwysig am ymwelwyr i’r trefi gan arwain at wella’r ddarpariaeth o wasanaethau i’r cyhoedd.”
Ychwanegodd “Mae’r stryd fawr wedi cael clec fawr gan Covid 19 a phwysau chwyddiant diweddar.
“Gan mai menter gymdeithasol yw ein rhiant-gwmni Antur Cymru, mae’r prosiect hwn yn gweddu’n dda â’n nod strategol o gefnogi datblygiad economaidd Cymru wledig.”
Mae Antur Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg i osod systemau cwmwl Cisco Meraki – a ariennir gan Lywodraeth Cymru – sy’n mesur nifer yr ymwelwyr a thueddiadau cwsmeriaid yng nghanol trefi, gan ddarparu data allweddol ar gyfer datblygu strategaethau manwerthu y dyfodol.
Nod Telemat yw darparu gwasanaeth TG dwyieithog cynhwysfawr ar draws Cymru, yn cynnwys datrysiadau caledwedd a meddalwedd er budd cartrefi a sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus; Di-Wifr i fusnes; datrysiadau TG gweithio-o-bell a chefnogaeth ddesg gymorth.
Dywedodd Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Cymru fod y datblygiadau diweddaraf hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad Telemat i ddiogelu dyfodol diwydiant.
“Mae cysylltedd digidol a chyfathrebu cyflym yn hanfodol yn y byd sydd ohoni, nid yn unig i fusnesau ond i fywyd bob dydd gwasanaethau ac unigolion, yn bersonol ac yn broffesiynol,” ychwanegodd.
“Mae ennill y cytundebau hyn yn cadarnhau safle Telemat fel arweinydd yn y maes ynghyd â sicrhau y bydd yn chwarae rôl bwysig wrth dafoli’n cymunedau gwledig ag ardaloedd eraill y DU am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: “Bydd hyn yn helpu i gefnogi busnesau lleol a’r economi mewn amryw ffyrdd. Bydd busnesau yn gallu cael mynediad at ddata am nifer yr ymwelwyr a data arall er mwyn gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a phennu cyfleoedd marchnata. Mae tystiolaeth, hefyd, bod yn well gan dwristiaid ardaloedd sy’n cynnig Wi-Fi am ddim a, thrwy ddarparu hwn, bydd elfen newydd yn rhan o brofiad yr ymwelwyr wrth iddynt ymweld â’n trefi; bydd mynediad at wybodaeth yn haws wrth grwydro. Bydd hefyd yn fantais ychwanegol i bobl leol ac ymwelwyr â’n trefi, yn enwedig rheiny sy’n gweithio mewn ffordd fwy ‘nomadaidd’ yn awr.”
Am ragor o wybodaeth ac i siarad â thîm Menter Antur Cymru, ffoniwch 01239 710238 neu e-bostiwch https://[email protected].
Neu ewch i’r wefan: https://anturcymru.org.uk neu https://anturcymru.org.uk/it-solutions