Cymraeg language logo

Prosiect Fferm Wynt Brechfa

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa wedi bod yn weithredol bellach am 18 mis. Yn ystod y cyfnod weddol fyr hwn, mae’r gronfa eisoes wedi cael gwir effaith cadarnhaol. Hyd yn hyn derbyniwyd 71 cais gwerth £3miliwn, ac o’r swm hwn mae mwy na £900,000 o arian wedi’i gymeradwyo.

https://brechfawestcommunityfund.org.uk/

Gweinyddir y gronfa gan Antur Teifi a phanel o bobl leol sy’n gwneud y penderfyniadau.

Astudiaeth achos

Brechfa Wind Farm project

Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, mae’r gronfa wedi:

  • Dwyn prosiectau newydd i’r ardal, gan gynnwys: Undeb Credyd, clwb cinio, clwb sinema cymunedol a chanolbwynt TG.
  • Ariannu cyfleusterau cymunedol pwysig a gwerthfawr fel canolfannau cymunedol, neuaddau eglwys, toiledau cyhoeddus, ysgolion a meithrinfeydd.
  • Ymateb i argyfyngau fel llifogydd a Covid-19.
  • Wedi ymrwymo i ariannu cyflogau aml-flwyddyn i swyddogion lleol yn Ymddiriedolaeth y Gofalwyr Sir Gaerfyrddin, Undeb Credyd Save Easy, Canolfan Deulu Pencader, Dolen Teifi a Ieuenctid Tysul.
  • Ariannu prosiectau twristiaeth gan gynnwys astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer llwybrau beicio mynydd lleol a phrosiect yr awyr dywyll.
  • Ariannu nifer o grantiau amrywiol o £450 i Bafiliwn Pencader am archwiliad ynni i £260k dros 5 mlynedd i Hosbis Skanda Vale i brynu byncws letya ar gyfer ymwelwyr i’w teml a fydd yn cynhyrchu digon o incwm dibynadwy i gynyddu’r ddarpariaeth hosbis breswyl dros amser o 7 diwrnod y mis i 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae medru cefnogi cymaint o brosiectau haeddiannol mewn cyfnod mor fyr wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r panel nid yn unig wedi bod yn gefnogol iawn ond hefyd wedi ymateb i anghenion lleol.

– Moishe Merry, Rheolwr Prosiect y Gronfa Gymunedol

Mae wedi bod yn anrhydedd i fedru rhyddhau’r arian i gefnogi gweithgarwch mor allweddol. Pa ffordd well o ddangos gwir werth y gronfa na’r modd yr ymatebwyd i fygythiad Covid-19. Rwy’n falch o’r rôl rydym wedi’i chwarae yn galluogi hyn i ddigwydd ac am holl waith caled ac ymroddiad ein staff.

– Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Cymru

Fe lwyddodd tîm ‘Antur Cymru Enterprise’ a chreu argraff ar Innogy trwy arddangos gwerthfawrogiad clir o’r cyfle unigryw y mae Cronfa Fferm Wynt Coedwig Brechfa yn ei gynnig. Fe wnaeth yr ymroddiad amlwg i wneud y gronfa yn agored i gymunedau ein sicrhau ni ei bod mewn dwylo diogel.

– Kathryn Harries, Swyddog Buddsoddiad Cymunedol Innogy

Rheolwr

Moishe Merry

Antur Cymru, Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, SA38 9DB

[email protected]
01239 710238 / 07779 457351
www.brechfawestcommunityfund.org.uk

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction