A fyddai eich busnes yn elwa o weithiwr wedi ei ariannu’n llawn am chwe mis?

Mae Antur Cymru yn bartner cyflenwi ar gyfer y Cynllun Kickstart sydd newydd ei lansio, ac sy'n gyfle gwaith â thâl o 6 mis y gall cyflogwyr lleol elwa ohono. Mae cynllun y Llywodraeth yn darparu cyfleoedd wedi'u hariannu'n llawn i gyflogwyr roi profiad gwaith i bobl ifanc tra'n caniatáu iddynt ddatblygu prosiectau a gweithgarwch newydd.

Gwneud cais drwy Antur Cymru Enterprise am grantiau drwy'r Cynllun Kickstart

Pwy all wneud cais?

Gallwch ddefnyddio'r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.

Cymhwysedd

Gall cwmnïau cyfyngedig sydd â dwy flynedd o gyfrifon masnachu wneud cais ond, gall hyn newid i gynnwys busnesau nad ydynt yn gyfyngedig. Cysylltwch â ni am fanylion pellach.  Rhaid i’r lleoliadau swyddi a grëwyd gyda chyllid Kickstart fod yn swyddi newydd.

 Rhaid iddynt beidio â:

  • Disodli swyddi gwag presennol neu rhai sydd yn gynlluniedig.
  • Achosi i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.
  • Rhaid i’r rolau yr ydych yn gwneud cais amdanynt fod am o leiaf 25 awr yr wythnos, am chwe mis.
  • Ni ddylai fod yn ofynnol i bobl ymgymryd â hyfforddiant helaeth cyn iddynt ddechrau’r lleoliad gwaith.

Menter Antur Cymru yn llwyddo i'ch helpu i wneud cais

Rydym yn bartner cyflenwi cydnabyddedig sy’n sicrhau cyllid i’n busnesau cleientiaid mawr a bach drwy geisiadau ar y cyd neu ar eu pennau eu hunain.

Mae ein dull llwyddiannus yn dangos sut y bydd pobl ifanc yn cael eu cefnogi ac yn cynnig gwerth i’r cyflogwr ac yn datblygu sgiliau i wella eu rhagolygon cyflogadwyedd.

Caiff ein cymorth ei ariannu’n llawn drwy’r Cynllun Kickstart ac mae £500 arall fesul rôl ar gael i’r cyflogwr i helpu i dalu am wisgoedd, hyfforddiant penodol, neu gostau gosod eraill.

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction